Adeiladu diwylliant ar gyfer gyd-gynhyrchu
llawlyfr y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Mae cyd-gynhyrchu yn hollbwysig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac mae'r Nodau Datblygu Mewnol yn ganolog i’r ddau. Mae'r rhain i gyd yn cefnogi datblygu cynaliadwy, gwell cyflawni a modelau a dulliau arweinyddiaeth pwysig.
Yn 2012, sefydlodd Llywodraeth Cymru y Gwasanaeth Newid Diwylliant, rhaglen hirdymor sy'n archwilio sut y gallwn newid ein hymddygiad a chreu diwylliannau lle mae cyd-gynhyrchu yn ffynnu. Yn 2022, archwiliodd Fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol y cysylltiadau rhwng cyd-gynhyrchu a'r pum ffordd o weithio yn y Ddeddf. Fe wnaethant ddod i'r casgliad bod y dull cyd-gynhyrchu yn mynd i'r afael â phob un o'r pum ffordd o weithio.
Gyda diolch enfawr i bawb sydd wedi cyfrannu, mae'r hyn sy'n dilyn yn ddetholiad o’r arferion mwyaf llwyddiannus a phoblogaidd yn seiliedig ar y dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf a thros ddegawd o arbrofi. Bydd gwahanol bobl mewn gwahanol leoedd ac ar wahanol adegau angen pethau gwahanol. Er mwyn yr effaith orau, defnyddiwch y llawlyfr hwn nid fel set o gyfarwyddiadau ond fel dewislen o awgrymiadau a gwahoddiad i fod yn greadigol. Gwehyddwch ffyrdd newydd o fod i’r holl ffyrdd gwych rydych chi eisoes yn defnyddio’r Ddeddf, a disodlwch unrhyw arferion y mae angen eu newid gydag eraill o’r fan hon neu rywle arall.
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn y mae ei angen arnoch, os oes gennych gwestiynau neu adborth neu os ydych chi eisiau gwybod mwy am Wasanaeth Newid Diwylliant Llywodraeth Cymru, rhowch wybod i ni. Cysylltwch â ni drwy anfon neges e-bost; Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru.
Cynnwys
Pennod 2 Gweithio gyda’n hymdeimlad o fregusrwydd
Pennod 4 Prosiectau a rhaglenni
Pennod 6 Gofalu am ein hunain ac am eraill
Pennod 7 Gweithio gyda gwrthdaro
Pennod 9 Byw mewn cyfnod anodd
Pennod 10 Arweinyddiaeth a theori newid
Pennod 11 Plymio yn ddyfnach, dysgu gyda’n gilydd
I gael y canlyniadau gorau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael amser i ddatblygu eich arferion tosturiol eich hun i gynnal eich hun rhwng cyfarfodydd. Gallwn gynorthwyo eraill yn well drwy edrych ar ôl ein hunain.
Byddwch yn greadigol ac yn garedig! Mae’r canllaw hwn wedi cael ei ddylunio i’w ddefnyddio mewn cyfarfodydd rhithwir, hybrid neu wyneb yn wyneb. Ym mhob cyfarfod, chwiliwch am ffyrdd creadigol o werthfawrogi amrywiaeth, diwallu anghenion cyfranogwyr, lleihau effeithiau amgylcheddol negyddol a chynnwys natur.
Rhoi’r cyfarfod ar waith? – cynnig neu ofyn
Mynd i'r afael â her fel grŵp - disgrifio a chynnig
Beth i'w wneud os bydd cyfarfodydd yn ormod o hwyl
Mae popeth yn dechrau gyda saib. Mae ymchwil yn dangos bod cymryd ychydig o saib hyd yn oed yn gallu ein helpu i wneud penderfyniadau gwell. Dim ond tua 120 mil eiliad y mae’n ei gymryd i’r ymennydd symud ffocws a rhwystro unrhyw beth sy’n tynnu sylw er mwyn gallu gwneud penderfyniad sy’n fwy cywir. Gallwn ddefnyddio seibiau a myfyrdodau byr (ee sganio’r corff) i helpu i bennu cyflymder cyfarfod.
Mae eistedd mewn cylch (cadeiriau a soffas) yn cynrychioli pwysigrwydd cyfartal pawb yn yr ystafell. Mae hefyd yn ein galluogi i sicrhau bod pawb yn cael cyfle i siarad a chael eu clywed ac i wrando. Mewn gofod rhithwir gallwch ail-greu'r effaith hon drwy lunio’r cylch o gyfranogwyr wrth fynd o amgylch y grŵp y tro cyntaf. Mae’n hawdd ail-greu’r cylch yn yr amgylchedd rhithwir.
Mae mynd o amgylch y grŵp yn golygu bod pawb yn cael cyfle i roi ateb byr, naill ai drwy gymryd eu tro o amgylch y grŵp neu drwy ganiatáu i bob unigolyn ateb ei gwestiwn pan fydd yn barod. Mae cael syniadau pawb yn gallu arwain at ragor o ddewisiadau, mwy o greadigrwydd a phenderfyniadau gwell.
Bydd diben penodol i’ch cyfarfod. Bydd angen i’r cwestiynau a ddefnyddiwch fod yn berthnasol i ddiben y cyfarfod a byddant yn unigryw. Weithiau, efallai y byddwch am gydlunio eich cwestiynau’n fyw yn y cyfarfod.
Ymgyfarwyddwch â’r broses fel y disgrifir uchod ac isod. Meddyliwch sut gallai hyn weithio orau i chi ac i’ch cyfranogwyr, gan addasu, defnyddio, myfyrio, rhoi cynnig arall arni.
Dewch o hyd i ffrind (neu ddau) i’ch cynorthwyo wrth i chi gadeirio. A oes angen rhywun arnoch i gymryd nodiadau neu symud pobl i mewn ac allan o ystafelloedd rhithwir? Neu ddim ond i gynorthwyo â’r lletya?
Meddyliwch am y cwestiynau y byddwch yn eu defnyddio. Efallai y gallech drafod y rhain neu ofyn i bobl eraill am eu syniadau.
Yn union cyn y cyfarfod, gwnewch yn siŵr eich bod yn cael amser i chi eich hun, ym mha ffordd bynnag sy’n eich helpu chi.
Croesawch bawb i’r cyfarfod. Disgrifiwch safonau ymddygiad a strwythur y cyfarfod. Gallai hyn gynnwys cyfrinachedd, yr angen i siarad yn gryno i ganiatáu i bawb gael tro, y ffaith nad oes neb dan orfodaeth i gyfrannu ar lafar a phwysigrwydd gwrando a thalu sylw, cymaint â siarad.
Efallai y byddwch am ddefnyddio ymarfer daearu dewisol i ddod â phawb i mewn yn llawn i'r ystafell. Mae llawer o bobl yn defnyddio myfyrdod tapio, sganio’r corff neu dawelwch byr. Ceisiwch ddewis rhywbeth sy’n addas i’ch cyfranogwyr. Rhywbeth byrrach ac ysgafnach sydd orau i ddechreuwyr. Gall seibiau i gasglu eich meddyliau fod yn well na seibiau sy’n seiliedig ar deimladau i’r rhai sydd o dan bwysau.
Mae ymchwil yn dweud wrthym fod pobl yn meddwl yn well gyda meddylfryd cadarnhaol neu werthfawrogol. Felly, pan fyddwch yn mynd o amgylch y grŵp gyntaf, gofynnwch i bawb yn yr ystafell i fod yn ddiolchgar.
Gallech wahodd pobl i rannu; un peth sy’n mynd yn dda iddynt y tu allan i’r gwaith, beth sy’n eu cymell i weithio ar y pwnc rydym ar fin ei drafod, neu rywbeth y maent wedi’i ddysgu neu ei werthfawrogi am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Dewiswch un cwestiwn ac eglurwch sut y bydd y broses o fynd o amgylch y grŵp yn gweithio, er enghraifft:
“Dechreuwch drwy ddweud eich enw cyntaf ac yna rhannu un peth sy’n mynd yn dda i chi y tu allan i’r gwaith. Does dim ots pa mor fach yw’r peth cadarnhaol – gallai hyd yn oed bod yma fod yn gyflawniad. Efallai y byddwch am rannu rhywbeth da yn eich bywyd rydych chi’n ei gymryd yn ganiataol; ond gallwch bob amser beidio â chymryd rhan yn hyn. Os byddwch chi’n dewis peidio â chymryd rhan ar y pryd, byddwn ni’n dod yn ôl atoch chi ar y diwedd i roi cyfle arall i chi gymryd rhan;, ond mae’n iawn i chi beidio yr ail dro hefyd. Mae bod yma a dim ond gwrando yn werthfawr iawn ynddo’i hun. Pan fydd rhywun yn barod i ddechrau, gwnewch hynny. Rhannwch eich enw cyntaf ac un peth rydych chi’n ddiolchgar amdano y tu allan i’r gwaith.”
Os ydych chi mewn ystafell go iawn, efallai y byddwch yn parhau i gymryd tro wrth fynd o amgylch y grŵp. Os ydych chi mewn ystafell rithwir (neu’n dymuno gadael i bobl gymryd eu tro pan fyddant yn teimlo’n barod) efallai y byddwch chi am gadw nodyn o bwy sydd wedi siarad. Ffordd dda o wneud hyn yw llunio cylch ac ychwanegu pob enw, wrth i bobl siarad.
Yn dibynnu ar nifer y bobl yn y cyfarfod, gallech roi sylw i bob un o’ch eitemau ar yr agenda drwy wneud y canlynol:
Cofiwch fod yn greadigol a defnyddio gwahanol ddulliau sy’n addas i wahanol eitemau. Cofiwch fynd o amgylch y grŵp a defnyddio seibiau i’ch helpu i glywed llais pawb.
Gallwch gynnal cyfarfod yn gwbl amlwg drwy ofyn y cwestiwn, “A oes unrhyw beth yr hoffech chi ei gyflwyno i’r cyfarfod hwn heddiw?”, naill ai gyda chwestiwn arall wrth fynd o amgylch y grŵp y tro cyntaf neu i ddechrau ail dro o amgylch y grŵp. Ar ôl i bawb siarad, agorwch y drafodaeth i bawb drwy ofyn, “A oes unrhyw drywydd yr hoffai unrhyw un ei godi, gyda chwestiwn, sylw neu syniad?”
Os nad ydych chi’n siŵr a ydyw’r cyfarfod yn barod i gau eto, gofynnwch y cwestiwn clasurol: “A oes unrhyw beth arall y mae angen ei ddweud, ei glywed neu ei ofyn cyn i ni orffen?”
Ar ôl gorffen, mae’n amser ar gyfer y saib olaf a mynd o amgylch y grŵp am y tro olaf.
Os oes angen gweithredu, gallech ddefnyddio cynnig neu ofyn ar gyfer y cam olaf hwn, neu gallech wahodd pobl i orffen gyda chwestiwn neu gwestiwn trafod arall fel:
Diolchwch i bawb am fod yma – am wrando a chyfrannu.
Pan fyddwch yn cyrraedd yr amser a bennwyd, bydd y cadeirydd neu’r hwylusydd yn dod â'r cyfarfod i ben ac yn dechrau'r broses cynnig neu ofyn.
Trefnwch bod rhywun wrth law i gofnodi unrhyw gamau gweithredu a rennir a’r sawl a’u cynigodd.
Stopiwch y gweithdy neu’r cyfarfod i ystyried y camau y byddwch yn eu cymryd yn sgil yr hyn a glywsoch.
Bydd tawelwch.
Gall unrhyw un siarad, ond â'r ystafell gyfan yn unig.
Gallwch ond ddweud pethau sy'n:
neu
Cynhaliwch y tawelwch nes bod yr holl gynigion (dim ots pa mor brin yr ydynt) wedi cael eu gwneud neu nes i’ch amser ddod i ben.
Rhowch ddiolch i bob sy'n gwneud cynnig.
Nid oes ots pa bobl sy’n ymateb, na faint o bobl sy’n ymateb, mae’n rhaid i’w cynigion fod yn rhai dilys.
Wrth i chi wneud hyn, bydd pobl yn dechrau cysylltu eu cynigion i greu camau gweithredu ar y cyd.
Dechreuwch y cyfarfod gyda chyflwyniadau, gan ofyn cwestiwn anarferol i bobl; Gallech ofyn iddyn nhw ddisgrifio rhywbeth y maent yn teimlo yn ddiolchgar amdani, dweud wrthym beth sy'n eu hysgogi, disgrifio rhywbeth creadigol (y maent wedi’i weld neu wedi’i wneud) neu ddweud wrthych pryd y gwnaethon nhw ryngweithio â natur ddiwethaf.
Mae un unigolyn yn disgrifio’r pwnc neu'r her rydych chi’n mynd i weithio arno yn gryno.
Mae pawb yn cymryd eu tro i roi un frawddeg neu un cwestiwn o fewn y rheolau isod. Mae’n iawn i basio neu i gymryd eich tro yn nes ymlaen yn y rownd. Mae rhywun sy’n cymryd nodiadau yn gwneud nodyn o bob brawddeg neu gwestiwn gan ddefnyddio union eiriau’r siaradwr.
Dim ond un frawddeg neu gwestiwn y gallwch ei ddweud neu ei gofyn; naill ai disgrifiad neu gynnig/awgrym:
Dylai disgrifiadau fod am rywbeth rydych chi wedi sylwi arno am y sefyllfa.
Dylai’r cynigion ddechrau gydag 2A allwn i...?” “A allem ni …?” neu “A allen nhw ...?”
Stopiwch unwaith y bydd pawb wedi rhoi cynnig arni a phenderfynu a oes angen ail rownd (yr un rheolau). Unwaith y byddwch wedi cael digon o rowndiau (un ar gyfer grŵp mawr, fel arfer, ond efallai dau neu dri ar gyfer grŵp bach), ewch i’r cam nesaf.
Cymerwch saib ac anadlwch.
Myfyriwch ar y rownd (neu'r rowndiau) gan geisio cadw unrhyw eglurder sydd wedi dod i'r amlwg; trafodwch a phenderfynwch beth rydych chi am ei wneud, a phwy fydd yn ei wneud. Wrth i’ch trafodaeth ddod i ben efallai y bydd eich camau gweithredu yn dod yn glir neu efallai y bydd defnyddio cynnig neu ofyn yn fodd i’w hegluro.
Efallai bydd y canllawiau hwyluso hyn yn ddefnyddiol i’r rhai sy’n cymryd nodiadau ac yn hwyluso.
Mae cadeirio gyda thri chwestiwn yn ffordd o gynyddu ffocws, effeithio lrwydd a chanlyniadau ymarferol unrhyw gyfarfod. Yn syml, bydd y cadeirydd (cynullydd neu hwylusydd) yn gofyn tri chwestiwn diffuant sydd wedi’u paratoi’n drylwyr.
Cofiwch aros am eiliad yn dawel cyn pob cwestiwn i gael gwell canlyniadau!
Nod cwestiwn 1 yw dechrau’r sgwrs, yn ddwfn gan fynd yn syth at lygad y ffynnon a chan wrando’n astud. Gwahoddir pob unigolyn yn yr ystafell i gyflwyno eu hunain drwy ateb y cwestiwn hwn. Yr unigolyn sy’n barod gyntaf a fydd yn dechrau’r sgwrs.
Er enghraifft, beth sy’n eich ysbrydoli chi yn eich gwaith? Pe baech chi’n cael newid un peth am y sefydliad hwn, beth fyddai’r un peth hwnnw? Yn eich barn chi, beth yw’r cyfle mwyaf yn y gwaith [prosiect penodol] rydym yn ei wneud gyda’n gilydd?
Nod cwestiwn 2 yw dyfnhau ein cyd-ddealltwriaeth o’r pwnc y mae’n rhaid inni gymryd camau yn ei gylch neu wneud penderfyniadau arno. Mae hwn yn gwestiwn agored a phenodol y gofynnir i bawb yn yr ystafell.
Er enghraifft, sut allwn ni fanteisio i’r eithaf ar iechyd da mewn henaint? Os nad oes modd defnyddio tanwydd ffosil, pa ffynonellau tanwydd eraill y gellir eu defnyddio i gynnal gweithrediadau diwydiannol? Beth ydyn ni’n ei wybod eisoes am drafnidiaeth effeithlon, cost-effeithiol sydd ddim yn cynyddu ein hôl-troed amgylcheddol?
Bydd cwestiynau ac atebion eraill yn datblygu yn ystod y cam hwn o’r sgwrs. Cofiwch wahodd lleisiau tawelach i ymuno, pan fo angen.
Nod cwestiwn 3 yw dychwelyd at y camau gweithredu.
Er enghraifft, pa gam bach allwn ni ei gymryd yn y cyfeiriad cywir? Sut allwn ni dynnu’r syniadau hyn ynghyd i greu cam gweithredu syml, arbrofol? Beth ydyn ni am ei wneud nesaf?
Unwaith y mae pawb wedi penderfynu gyda’i gilydd beth y maen nhw am ei wneud, efallai yr hoffech chi ofyn un cwestiwn arall; Sut y bydden ni’n gwahodd pobl eraill i ymuno?
Ar gyfer cyfarfodydd mwy efallai yr hoffech roi cynnig ar Open Space, World Cafe neu Sociocracy. Gweler hefyd y bennod hwyluso.
Mae problemau'n codi wrth i ni ddatblygu ffyrdd gwell, a mwy hwyliog o gwrdd. Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n anodd cyfiawnhau mynd i gyfarfodydd 'neis iawn' ac eto y rhain yw'r cyfarfodydd pwysicaf y mae angen i ni fynd iddynt.
Gall hyd yn oed yr ymarferydd mwyaf ystyriol ac ymrwymedig deimlo'n euog am fwynhau ymarferion ‘dysgu a gwneud’ neu ymholiad sy’n dangos gwerthfawrogiad, neu ddosbarth dsygu Cymraeg.
Yn aml, disgrifir caredigrwydd a thosturi fel 'gweithredoedd'. Fodd bynnag, rydym yn ei gweld hi'n fwyfwy defnyddiol meddwl amdanynt fel agweddau neu safbwyntiau rydym yn eu mabwysiadu. Mewn byd cysylltiedig, awgrymir bod ‘bod yn garedig’ yn fater dewisol ac y gellir ei ddiffodd. Mae hyn yn caniatáu i ni gyfiawnhau ein hunan wrth fod yn rhan o system gamdriniol, tra’n parhau i fod, i bob golwg, yn garedig ac yn dosturiol tuag at yr unigolyn.
Fel pobl, mae gennym yn aml deimladau cryf am degwch a phenderfyniad i weithio'n galed (yn isymwybodol neu'n ymwybodol, am nifer o resymau). Ar ôl bod mewn cyfarfod hyfryd mewn coetir hardd rydym yn tueddu i wthio cyfarfod nesaf y gyfres bron yn ddiarwybod i ni at waelod ein rhestr o flaenoriaethau. Mae'n ymddangos bod hyn yn ymwneud yn fwy â'n teimladau o euogrwydd a'n amharodrwydd i fod yn garedig tuag atom ni ein hunain nag ag unrhyw asesiad rhesymol o bwys strategol.
Er y gallwch gynnal cyfarfodydd mewn ffyrdd gwahanol, mae angen i’r gwaith ar y wardiau fynd yn ei flaen o hyd. Sut y gallwn ni wneud yr agenda hon yn berthnasol i’r rheini sy’n gwneud y gwaith er mwyn i ni allu gwella bywydau gwaith pawb yn hytrach na'r bobl hynny sy'n ddigon ffodus i eistedd mewn cyfarfodydd? Mae peidio â chynnwys y staff yn y wardiau neu'r athrawon yn yr ystafelloedd dosbarth yn gallu achosi rhwyg a theimlad o ddiffyg parch.
Rydym yn cynnig yr ateb syml canlynol i unrhyw un sy'n poeni am y problemau hyn....
Bob tro y byddwch yn mynd i gyfarfod da, cofnodwch yr amser a gymerwyd a'i dalu 'nôl.
Gallwch wneud hynny drwy weithio neu wirfoddoli ar y rheng flaen neu drwy gwrdd â staff y rheng flaen i hwyluso neu roi amser iddynt feddwl gyda'i gilydd. [Bydd y rhan fwyaf o reolwyr yn dechrau 'heb unrhyw beth yn y gronfa' tra bod llawer o gyfarfodydd da eisoes yn ddyledus i lawer o staff y rheng flaen.]
Yn y pen draw, mae'n bosib y gallwn gael cyfuniad o gyfarfodydd braf a gweithredoedd caredig, wrth i gyfarfodydd anghynhyrchiol hen-ffasiwn ddiflannu o'r system, cyhyd â’n bod hefyd yn newid y cyfarfodydd y mae gennym reolaeth drostynt yn gyfarfodydd da.
Bod yma yn y cnawd ac yn gwbl bresennol
“Mae pŵer a bregusrwydd bob amser ar ddwy ochr yr un geiniog. Mae yna fregusrwydd, sensitifrwydd sy’n caniatáu i chi gael profiad gwirioneddol bwerus. Pan fyddwch chi’n teimlo’n fregus, bydd hynny oherwydd eich bod chi’n ddigon pwerus i allu teimlo hynny, ac oherwydd bod pŵer yn siarad â chi, yn dweud wrthych chi beth y mae ei angen arnoch mewn amgylchiadau penodol i ofalu amdanoch chi’ch hun a chadw eich hun wedi’ch canoli.
Pan fyddwch chi’n teimlo’n fregus, gofynnwch i chi’ch hun: Beth yw’r neges hon sy’n dweud wrtha i sut i warchod fy hun, sut i ofalu am fy hun yn y sefyllfa hon? Pan fyddwch chi’n teimlo’n bwerus, sylwch a ydych chi’n ymddwyn yn bigog, yn teimlo nad oes modd eich cyffwrdd, neu ymdeimlad o hawl yn y pŵer hwnnw. Wynebwch eich pŵer â thynerwch, meddalwch yr ymylon, ac ymlaciwch i gael pori a chael eich cynnal gan y pŵer yn hytrach na’i ddefnyddio i gadw eich hun ar wahân, uwchlaw, yn anghyffwrddadwy, neu ag ymdeimlad o hawl.” - Jumana Sophia
Mae gwireddu’n potensial fel unigolion ac fel sefydliadau yn dibynnu’n rhannol ar ddeall ein lle ni yn y system ac ar ddeall yr effaith gadarnhaol iawn y gall pob yr un ohonom ei chael drwy newid ein meddylfryd o un rydwythol i un allddodol a chyfannol.
Mae angen inni nid yn unig ddygymod â pha mor ysgeler yw’r system ond deall ein bod yn rhan annatod o’r system honno. Nid dyletswydd yr unigolyn yn unig yw meithrin ymdeimlad o gryfder. Ni ddylid cymryd mai’r unigolyn ei hun sydd ar fai mewn rhyw ffordd am ei wendid ac am yr angen i fod yn fwy cadarn a gwella’i sgiliau ymdopi. Rydym i gyd yn gyfrifol am greu amgylchedd sy’n iachau ac yn galluogi. Dyma rai o’r camau cyntaf y gallem eu cymryd…
Mae ofn methu ac ymdeimlad o gywilydd a gwarth yn emosiynau naturiol pwysig y dylem wrando arnynt bob amser, ond nid yw’r ffordd yr ymatebwn i’r teimladau hynny (ynom ni ein hunain ac mewn pobl eraill) yn ein helpu bob tro. Mae sut yr ydym yn deall ac yn rheoli’r emosiynau hyn yn llywio’r hyn a wnawn, a hynny mewn ffordd uniongyrchol neu anuniongyrchol, ac mae hefyd yn effeithio’n uniongyrchol ar y diwylliannu yr ydym yn gweithio ynddynt.
Mae cuddio camgymeriadau y tu ôl i wallau technegol a thrwy ‘wisgo masg’ er mwyn cuddio’n hymdeimlad o fregusrwydd yn gyffredin. Mae angen inni fynd i’r afael â’r hyn sydd wrth wraidd yr ymdeimlad hwnnw:
Rydym wedi dysgu bod y cyfle i gymryd risgiau ac i wneud camgymeriadau yn bwysig os yw unigolion a sefydliadau am ddysgu a bod yn effeithiol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod amgylchedd lle nad yw pobl yn ‘perchenogi’ camgymeriadau a’r diffygion sydd ynom fel bodau dynol yn llesteirio creadigrwydd ac yn atal pobl rhag meddwl yn glir. Mae angen cryn dipyn o egni i ‘guddio’ camgymeriadau ac mae gwneud hynny’n arwain at batrwm o ‘ofn’ yn yr ymennydd, gan greu amgylchedd gweithio anghynhyrchiol sy’n troi’n weithle i’w osgoi, yn hytrach nag yn lle i fod yn greadigol ac yn flaengar.
Mae angen amgylcheddau arnom sy’n rhai diogel yn seicolegol lle gall pobl ymlacio wrth weithio, gan wybod bod eu gwaith yn ystyrlon ac yn cael ei werthfawrogi, lle maent yn gallu siarad yn agored, cael sgyrsiau anodd, meithrin gwell dealltwriaeth o’u teimladau annifyr, arbrofi a chreu’r amrywiaeth o syniadau a all arwain at atebion gwell.
Mae angen rhywle i bobl weithio lle mae methu’n rhan hanfodol o ddysgu, lle mae arweinwyr yn cyfaddef eu bod wedi gwneud camgymeriadau ac yn dangos sut y maent wedi dysgu oddi wrthynt. Mae angen trefniadau lle gall pobl ofyn am gymorth oddi wrth unrhyw un yn y sefydliad ac mae angen dod â phobl at ei gilydd i rannu syniadau, i roi adborth clir a mynd i’r afael â’u teimladau anoddaf mewn ffordd dawel a thosturiol. Mae angen inni greu amgylcheddau sy’n galluogi pobl ac sy’n sicrhau eu bod yn gwneud y cyfraniad mwyaf posibl ar gyrraedd amcanion cyffredin.
Dim ond drwy weithio ar ein hymdeimlad ein hunain o fregusrwydd a thrwy helpu pobl eraill i weithio ar eu bregusrwydd hwy y gallwn greu lleoedd o’r fath. Nid yw ‘gwisgo masg’ na ‘mabwysiadu persona’ yn ymarferol nac yn rhywbeth i’w chwennych gan fod gwneud hynny’n ein hatal rhag meithrin cysylltiadau â phobl eraill ac ymateb i realiti’r hyn sy’n digwydd. Er mwyn gwneud hynny, rhaid inni fod yn gwbl bresennol a dod â phob rhan ohonom i mewn i sefyllfaoedd sy’n anodd, yn heriol ac (ambell dro) yn rhai a allai fod yn beryglus.
Yr hyn sy’n allweddol er mwyn bod yn bresennol yw treulio amser yn ystyried yr ymdeimlad o fregusrwydd sydd ynom. I weld cyflwyniad rhagorol sy’n seiliedig ar dystiolaeth academaidd, fe’ch cyfeirir at waith Brenee Brown, sy’n dangos bod pobl lwyddiannus yn bobl fregus.
Mae tair prif agwedd ar ein bregusrwydd:
Ymlaen llaw – rydym yn teimlo’n nerfus ac nad ydym am fwrw ymlaen…
Yn ystod y digwyddiad – mae yna ennyd (sy’n un hir weithiau, neu efallai fod mwy nag un) pan mae’n ymddangos bod popeth allan o reolaeth ac nad ydym yn gwybod beth i’w wneud nesaf. Gall hynny deimlo’n rhyfedd a dyna’r adeg anoddaf i dderbyn cyngor ‒ a hynny am ein bod yn ei chanol hi. Efallai y bydd y teimlad hwn yn cael ei ystyried yn beth cadarnhaol neu negyddol, gan ddibynnu’n llwyr ar y diwylliant – pan fyddwn ar ein mwyaf creadigol, mae’n bosibl y byddwn o’r farn bod sefyllfa o’r fath yn un dda i fod ynddi.
Wedyn – fe’n trewir gan don sydyn o orbryder a chywilydd…
Mae’n bosibl bod pob un o’r tri hyn yn gwbl angenrheidiol ar gyfer cyfarfod llwyddiannus:
Ymlaen llaw ‒ Mae’r corff yn dweud wrthym fod yna rywbeth nad yw’n ddiogel. Gall y bygythiad fod yn un real neu’n un sydd yn ein dychymyg, ond mae’r teimlad yn un real iawn. Mae angen inni ddangos parch at ein hunain ac at y bobl eraill sydd yno; mae angen sicrhau bod y camau diogelwch priodol yn eu lle a chymryd amser i ystyried; “Sut mae fy mherthynas gyda’r bobl hyn, yn y cyd-destun hwn, yn gwneud imi deimlo nad ydw i’n ddiogel?” “Beth fyddai’n ymateb doeth oddi wrthyn nhw ac oddi wrthyf i a beth fyddai’n ymateb doeth i’r sefyllfa?” Mae’r rhain yn gwestiynau gwerthfawr oherwydd y gallent ddechrau newid pethau go iawn yn y tymor hwy.
A phan ddaw hi’n fater o weithredu; cofiwch barhau i anadlu’n ysgafn.
Yn ystod y digwyddiad ‒ Atgoffwch eich hun i anadlu ac i arafu. Dim ond drwy beidio â gwybod y daw doethineb; peidiwch ag yngan gair, bydd rhywbeth yn siŵr o ddigwydd. Y perygl yw bod rhywun bob amser yn dweud rhywbeth er mwyn tarfu ar y tawelwch neu i wneud iawn am y ffaith nad oes neb yn gwybod. Treuliwch ychydig o amser yn ystyried yr hyn sy’n digwydd o ran gwybod, o ran peidio â gwybod, a’r ymateb emosiynol. Dyna’r eiliad honno o bresenoldeb a allai arwain at rywbeth newydd, os yw cymhlethdod ac ansicrwydd yn cael caniatâd i fod yno.
Wedyn ‒ Mae’r corff yn ymadfer ar ôl ymateb i’r straen ac yn integreiddio ac amgyffred y profiad. Mae’n bwysig rhoi amser iddo. Mae elfen o drawma yn gysylltiedig â’r ymdeimlad hwn o fregusrwydd ac fel mamaliaid a bodau dynol, mae angen amser arnom i ryddhau’r effeithiau y mae’n ei chael ar y corff. Gall yr hyn a ddysgwn wrth y cam hwn lywio’r hyn a wnawn nesaf ‒ beth allwn ni ei ddysgu o’r profiad hwn?
Dyma dair ffordd bosibl y gallwn ymateb i’n hunain ac i bobl eraill…
Ymwybyddiaeth ‒ cydnabod ein sylw heb unrhyw feirniadaeth, sylwi sut y mae’n symud o gwmpas, ble a phryd y mae’n digwydd neu nad yw’n digwydd a sut y mae’n cael ei dynnu gan yr hyn sy’n digwydd o’n hamgylch.
Empathi ‒ mae’n beth naturiol inni rannu ac adlewyrchu profiadau pobl eraill (drwy ein drych-niwrnoau) ond gall hynny sugno’n hegni neu ein llethu.
Tosturi – sef profi teimlad, emosiwn neu brofiad (sy’n digwydd i ni neu i bobl eraill) heb gael ein llethu ganddo. Mae hyn yn debycach i rannu’r teimlad neu’r profiad mewn gofod rhyngom, gan ganiatáu inni gydnabod pa mor ddynol yw’r teimlad, a chaniatáu iddo fod fel y mae yn yr eiliad hwnnw, a’n galluogi i ofyn beth sy’n mynd ymlaen a’i archwilio.
Gall empathi ar ei ben ei hun olygu bod mwy o obaith inni gerdded i ffwrdd ar ôl y sgwrs yn llawn teimladau anodd, ond drwy ychwanegu tosturi ac ymwybyddiaeth, mae mwy o obaith inni leihau’r beichiau yr ydym yn eu rhannu.
Mae tosturi ac ymwybyddiaeth yn sgiliau y gallwn eu meithrin. Mae amynedd, ymarfer, myfyrio, rhannu a goruchwyliaeth yn hanfodol er mwyn gwella’n sgiliau.
Er mwyn rhoi’r cyfle gorau inni ddeffro ac ymddwyn fel hyn, mae angen inni ofalu amdanom ein hunain yn ogystal ag am bobl eraill. Ewch i How can I improve my personal resilience? i weld rhai awgrymiadau.
Ydych chi am fod yn fwy strategol? Ewch am dro!
Datblygu parhaus - effaith a deimlwyd, effaith a fwriadwyd
Ydyn ni’n gweithio’n rhy galed? Llifo, cyflymder neu lladd nadroedd
Mae tystiolaeth gynyddol sy’n dangos y gall bod ym myd natur wella ein dealltwriaeth, y ffordd rydym yn meddwl a'r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau, yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol at ein hiechyd a llesiant cyffredinol. Dyma bedair ffordd y gallwch chi roi cynnig ar wneud hynny...
Pan fyddwch chi wedi bod yn eistedd wrth y ddesg, gyda’ch pen i lawr ac yn canolbwyntio'n galed, mynnwch seibiant. Ewch am dro byr, ystyriol gan ddod â'ch meddwl creadigol, strategol yn ôl i'r swyddfa gyda chi.
"Pan oeddwn i'n rheoli staff cynhaliais i nifer o gyfarfodydd â nhw yn yr awyr agored. Weithiau byddai un ohonyn nhw'n dod i'r gwaith mewn hwyliau eithaf swta a sarrug. Felly, byddwn i'n mynd ag ef am dro ar hyd y rhodfa ac yn ôl er mwyn iddo ddweud ei ddweud. Roedd yn cael hyn yn fuddiol iawn, a chytunon ni y byddai cyfarfodydd un i un rhyngon ni'n cael eu cynnal yn yr awyr agored lle roedd hynny'n ymarferol. Dywedodd wrtha fod cynnal cyfarfodydd o dan yr amodau hynny'n gwneud iddyn nhw deimlo'n llai ffurfiol, a'i fod yn teimlo'n fwy cyfforddus wrth siarad yn agored. Roedd fy rheolwr yn fodlon ar y dull hwn, gan ei fod ef hefyd yn gweld y manteision. Doedd un o’r staff ddim mor gyfforddus â'r dull hwnnw, felly, gwnaethon ni fynd yn ôl i gynnal cyfarfodydd yn y gweithle. Roedd aelod arall o fy nhîm i'n hapus imi gynnal ein sgyrsiau rheoli perfformiad yn yr awyr agored."
"Rydyn ni'n dîm strategol sy'n edrych ar ddata, siartiau a 'sectorau' drwy'r dydd, bob dydd. Fel rhan o'n gwaith adeiladu tîm rydyn ni'n ceisio symud cyfarfodydd rhwng y gwahanol swyddfeydd mae'r tîm yn gweithio ynddyn nhw. Ar gyfer y cyfarfod tîm yn Sir Benfro, penderfynon ni fod angen mynd'r swyddfa ac edrych ar y tirweddau a'r ffordd mae pobl yn defnyddio'r tirweddau rydyn ni'n siarad amdanyn nhw yn ein gwaith.
Cynllunion ni daith gerdded ddwy awr. Yr awr gyntaf oedd ein hawr llesiant, lle gwnaethon ni gerdded a siarad, edrych ar y dirwedd a gwneud ychydig o waith botaneg hyd hyn oed, gan fod un aelod o'n tîm yn wybodus am y blodau arfordirol a oedd yn dechrau blodeuo.
Ar gyfer ail ran y daith, edrychon ni ar y dystiolaeth hanesyddol ynghylch sut roedd pobl wedi defnyddio'r dirwedd yn y gorffennol. O lecyn ffafriol, roedden ni'n gallu dechrau edrych ar sut mae adnoddau naturiol yn cael eu defnyddio yn yr oes sydd ohoni, gan gynnwys cynefinoedd, ffermio, cymunedau a thwristiaeth. Gan fod yr ardal hon yn cynnwys morwedd hefydd, roedden ni'n gallu meddwl am bysgota a chynhyrchu pŵer. Er na ddaethon ni i unrhyw gasgliadau yn y fan a'r lle, roedd edrych ar y dirwedd a pha mor agos mae'r holl weithgareddau wedi'u cysylltu â'i gilydd yn ddigon i'n helpu ni i weld ein gwaith yn ei gyd-destun, a rhoi ffocws ymarferol i'r gweithgareddau rydyn ni'n siarad amdanyn nhw bob dydd.
Roedd yr adborth gan y tîm yn gadarnhaol iawn: dod â'r materion rydyn ni'n gweithio arnyn nhw'n fyw, deall sut mae tirweddau'n gweithredu fel system gymhleth, ac ailgysylltu â'r hyn rydyn ni'n ceisio ei gyflawni a'i ddeall yn ein gwaith."
"Rydym yn ymdrechu i gael cysondeb er mwyn sicrhau y gall pobl gael yr un disgwyliadau a phrofiad o gerdded ochr yn ochr â Chydlynydd Ardal Leol ni waeth pa gymuned y maen nhw’n byw ynddi. Rydym hefyd yn cydnabod yr amrywiaethau ym mhob unigolyn, pob aelod o’r tîm, pob cymuned a’r cydberthnasau dilynol rhyngddynt i gyd. Mae hyn yn golygu mai prin iawn y ellir safoni’n aml. Mae’r pwyntiau isod wedi fy helpu i ddeall hyn yn y termau hyn.” Ronan Ruddy
Nid yw cysondeb yn golygu safoni.
Bydd prosiectau, gwasanaethau, adroddiadau a chamau gweithredu yn edrych ac yn teimlo’n wahanol mewn mannau gwahanol.
Rydym yn cyflawni cysondeb drwy:
Dros amser, bydd hyn yn creu cysondeb yn y meysydd canlynol:
Caiff y rhain eu gwella drwy:
Rydym yn sylweddoli'n raddol pa mor gynyddol gythryblus, ansicr, newydd ac amwys yw ein byd mewn gwirionedd (TUNA yn Saesneg). Nid yw bellach yn bosibl nac yn ddymunol cynllunio mewn ffyrdd cynhwysfawr, i amserlenni caeth ac yn seiliedig ar dargedau. Rhaid inni ddatblygu mecanweithiau cynllunio mwy hyblyg. Un ffordd o wneud hyn yw sefydlu a defnyddio cynllunio eginol.
"Yn bendant mae’r ffordd hon o weithio’n peri llai o straen (hyd yn oed i rywun sy'n hoffi cynllunio fel fi!) Mae'n debygol o arwain at lai o ohirio, oedi a diffyg hyder.”
Rydym yn dal i gasglu ac ystyried ystod eang o wybodaeth, ar y cyd â phobl eraill
Rydym yn dal i oedi i ystyried y wybodaeth hon yn drylwyr a defnyddio ein creadigrwydd
Fodd bynnag…
Dim ond y camau cyntaf sydd i’w cymryd yr ydym yn eu nodi a’u disgrifio (un i dri)
Rydym yn dod yn ôl at ein gilydd yn rheolaidd yn ystod y camau hyn i ystyried cynnydd, i rannu’r hyn a ddysgwyd, ac i gytuno ar y camau nesaf; gan addasu’r camau neu gytuno ar nifer fach o gamau newydd, cymharol uniongyrchol
Rydym wrth ein boddau yn craffu – yn creu trywydd archwilio clir wrth inni fynd yn ein blaenau, gan gasglu adborth, ei ystyried yn ofalus a rhoi syniadau newydd ar waith yn gyflym
…Yna, byddwn yn dilyn yr un ac….
Setiau dysgu gweithredol ar gyfer llywodraethu
Ffrydiau cyllid sy'n canolbwyntio ar y tymor hir a'r canlyniadau
Cydweithredu a rhannu gwybodaeth wahanol (sy’n amherthnasol yn ôl pob golwg)
Gwneud cysylltiadau a chynnwys pobl newydd yn ein trafodaethau
Rhoi pwyslais ar feithrin perthnasau drwy ddysgu drwy wneud
Gwneud amser i gael adborth o ymylon y system yr ydym yn gweithio ynddi
Yn aml, rydym yn wynebu nifer o senarios cymhleth posibl yn y dyfodol. Mae’n bosibl y bydd nifer fawr o bosibiliadau gwahanol ar gyfer datblygiadau yn y dyfodol.
Edrychwch ar yr hyn a wyddoch am yr holl bosibiliadau hyn …
Dyma'r ychydig (iawn) o gamau a fyddai, pe baech yn eu cymryd, yn fwyaf tebygol o helpu ym mhob un o'r senarios a nodwyd.
Yna crëwch prototeip sy'n dod â'r rhain at ei gilydd.
“Mae angen dau beth arnoch i ddechrau: canlyniad a cham cyntaf.” Awdur anhysbys
Mae gennych eich canlyniad, eich gweledigaeth neu’ch gobaith ar gyfer y dyfodol ac yna mae gennych eich prototeip…
Mae prototeip yn gam gweithredu ymarferol y gellir ei brofi sy’n hoelio sylw ar ddysgu.
Mae prototeip yn trosi syniad yn gam cyntaf cadarn. Nid y canlyniad terfynol ydyw ond arbrawf sy’n ein galluogi i greu adborth gwerthfawr. Bydd yr adborth hwn yn ein helpu i fireinio ein dealltwriaeth a datblygu prototeipiau ar gyfer yr ail a’r trydydd cam...
Mae prototeipiau yn seiliedig ar yr egwyddor o ‘fethu’n gynnar i ddysgu’n gyflym’.
Nid peilot yw prototeip. Yn wahanol i beilot, nid ydym yn disgwyl ehangu yn nes ymlaen ar raddfa fwy ond yn hytrach ysbrydoli ar draws ar hyd y cyfnod gan gael eich ysbrydoli gan yr hyn y mae eraill yn ei ddysgu a defnyddio’r hyn yr ydym ni wedi’i ddysgu i’w hysbrydoli nhw.
“Gall rhaglenni peilot sydd wedi’u cyfyngu’n dda yn ddaearyddol ac yn amserol weithiau fethu â datgelu canlyniadau anfwriadol sy’n deillio o raddfa, hyd, neu gyd-destun. Mae yna duedd hefyd i gynnal rhaglenni peilot gyda phartneriaid sydd yn ymroddedig iawn ac yn gyfforddus ag arloesedd. Felly, nid yw llwyddiant mewn peilot, o reidrwydd, yn dynodi y bydd polisi yn llwyddo ar raddfa fwy”
Paratoi - Os ydych yn gweithio ar eich pen eich hun, defnyddiwch y cwestiynau i nodi, ystyried neu ddatblygu eich syniadau. Efallai y gallwch gadw dyddiadur o’ch meddyliau mewn ymateb i bob cwestiwn. Yna trafodwch gyda ffrind, hyfforddwr neu gydweithiwr gan ymrwymo i greu eich prototeip cyntaf.
Os ydych yn gweithio fel tîm, gallwch ddarllen y rhain i’r tîm gan ofyn iddynt gwblhau’r tabl syml isod. Yna trafodwch sut y gallwch ddod â’ch prototeipiau at ei gilydd i wneud un cyfan.
Fy mhrototeip | Rhyngddibyniaethau |
(Wrth ichi glywed y cwestiynau ychwanegwch eich meddyliau, newidiadau a’ch addasiadau yma) | (Wrth ichi glywed y cwestiynau ychwanegwch syniadau ar gyfer prototeipiadau eraill, ymholiadau a chwestiynau yma) |
Rhannwch - Os ydych yn gweithio ar fwy nag un prototeip – pam na wnewch chi eu rhannu a’u cymharu? Gofynnwch i bob unigolyn cwestiynau canlynol:
Cymerwch saib.
Gyda phwy y byddwch chi’n gweithio i gyflawni’r prototeip hwn?
Gan bwy a sut y byddwch chi’n cael adborth?
Pryd a ble y byddwch chi’n adlewyrchu ac adolygu hynt y gwaith?
Beth fyddwch chi’n ei wneud yn ystod y 24 awr nesaf i gychwyn arni?
Am ragor o fanylion am brototeipio ac am Theori U, gweler Leading from the emerging future.
“Wrth adolygu’r gwersi a ddysgwyd o’n prosiect, gwnaethom sylwi ar batrwm diddorol. Gwelon ni ein bod ni’n arafu’n gwaith oherwydd un camgymeriad cyffredin. Dyma’r hyn oedd yn digwydd:
Mae aelod tîm (1) yn mynd at reolwr (2) i ofyn am gymorth. Mewn ymateb, mae’r rheolwr yn dyfynnu rheolwr neu randdeiliad arall (3 = y trydydd parti). Mae geiriau’r trydydd parti yn berthnasol ac yna mae’r aelod tîm yn mynd ymaith i roi’r geiriau hynny ar waith.
Yn anfwriadol, rydym wedi rhoi taw ar y drafodaeth. Rydym, trwy ei ddyfynnu, wedi cymryd arnom ‘ddylanwad’ y trydydd parti, er nad yw’n bresennol.
Pan wnaethom drafod y mater yn ddiweddarach, daethon ni i ddeall fod gwybodaeth ychwanegol gan aelodau o’r tîm ond doedden nhw ddim wedi’i rhannu oherwydd eu bod yn teimlo bod rheidrwydd arnyn nhw i wireddu gweledigaeth y trydydd parti. Byddai’r wybodaeth ychwanegol hon yn debygol iawn o fod wedi’n helpu i wneud penderfyniad gwell gan arbed amser ac egni.
Mae pob un ohonom wedi ymrwymo’n bersonol i beidio â dyfynnu trydydd parti gan wneud yr isod yn lle hynny:
“Mae angen i bob un ohonon ni ailfeddwl am adborth fel set ddefnyddiol o ddata yn hytrach na beirniadaeth y byddwn ni’n ei chymryd yn bersonol ac yn pendroni yn ei chylch. Cyfeirio ydw i at “fod yn gyfforddus â’r hyn sy’n gwneud inni deimlo’n anghyfforddus!” – Swyddog o Lywodraeth Cymru a wnaeth roi cynnig ar hyn ei hun
Mae Dyfodol Tanio Cyflawni yn ein cefnogi ac yn ein herio i wella drwy’r athroniaeth sy’n sail i’r cyfan, sef athroniaeth o:
Mae rheoli'r effaith a deimlir yn allweddol ar gyfer meithrin perthnasoedd mwy o faint, a bod mewn partneriaeth â phobl – ar gyfer cyfranogiad, tegwch a gwerthfawrogi amrywiaeth.
Yn gyntaf, byddwch yn gwbl glir ynghylch yr effaith a fwriedir – gofynnwch i’ch hunan: Sut mae pobl yn teimlo o’m cwmpas i?
Yna, meddyliwch am eich ymddygiad fel arweinydd a fydd yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn bwysig – Sut byddwch chi’n meithrin cyfranogiad, tegwch ac amrywiaeth? Pa un o’ch cryfderau y byddwch chi’n ei ddefnyddio wrth ymateb i’r dasg hon?
Gofynnwch i bobl pa brofiad a deimlwyd ganddynt wrth feddwl amdanoch chi. Hwyluswch bethau iddyn nhw: ‘Sut brofiad yw bod o’m cwmpas i ar ddiwrnod da?’ ‘Sut brofiad yw bod o’m cwmpas i ar ddiwrnod gwael?’ ‘Beth sy’n eich helpu i deimlo’n rhan o bethau a’ch bod mewn partneriaeth â mi?’ ‘Beth allwn i wneud mwy ohono/llai ohono/ei wneud yn wahanol?’
Cymerwch saib: efallai na fyddwch yn hoffi’r hyn byddwch chi’n ei glywed. Peidiwch â gwneud sylwadau ar yr hyn a ddywedir.
Diolchwch iddyn nhw am eu hadborth. Cofiwch, mae’r data hyn yn bwysig. Dymasut y maen nhw’n teimlo oherwydd eu profiad nhw yn ymwneud â chi.
Crëwch le ac amser i fyfyrio ar yr adborth a gawsoch. Cadwch feddwl agored. Byddwch yn onest â chi’ch hun. Gweithiwch gyda choetsiwr neu fentor cydfuddiannol. Pa wybodaeth newydd sydd gennych amdanoch chi’ch hun? Beth allwch chi ei ddysgu?
Dyma rai cwestiynau i’w gofyn i chi’ch hun mewn eiliad fyfyriol. Efallai y bydd rhai ohonynt yn addas i weithio arnyn nhw fel tîm hefyd...
Dyma rai pynciau ar gyfer sgwrs tîm neu ar gyfer sgyrsiau un i un efallai.
I gael rhagor o wybodaeth am effaith a fwriadir ac effaith a Deimlir, a Dyfodol Tanio Cyflawni, gweler llyfr Leadership Plain and Simple gan Steve Radcliffe, sydd wedi’i olygu gan Anthony Landale.
Efallai ei fod yn groes i’r graen, ond mae digon o dystiolaeth i awgrymu bod ein cynhyrchiant a’n hawch strategol mwyaf yn dod, nid o weithio mor gyflym a chaled â phosibl ond, drwy sicrhau cydbwysedd a gwneud pethau’n raddol yn ein bywydau. (Gweler hefyd, pum llwybr llesiant.)
A ydywy’r gwaith yn ‘llifo’n dda’ gyda chi neu ydych chi’n gweithio ‘ar gyflymder’ neu’n ‘gweithio fel lladd nadroedd’?
Cyflwr lle mae’r gwaith ‘yn llifo’n dda’ (sy’n cael ei ddisgrifio yn Saesneg hefyd fel bod ‘in the zone’) yw’r sefyllfa feddyliol a chorfforol lle mae unigolyn sy’n perfformio gweithgaredd yn teimlo ei fod yn llawn ffocws egnïol, yn ymrwymo’n llawn ac yn mwynhau’r broses o wneud y gweithgaredd. Un o nodweddion y sefyllfa hon yw bod unigolyn yn cael ei amsugno’n llwyr gan yr hyn y mae’n ei wneud, ac o ganlyniad i hynny mae’n colli’r ymdeimlad o le ac amser.
Fel arfer, nid yw’n bosibl aros yn y cyflwr hwn am gyfnodau hir ond mae’n bosibl datblygu arfer parhaus o ran defnyddio’r llif hwn dro ar ôl tro yn y byd chwaraeon, cerddoriaeth neu waith ac ati. Gall sefyllfa o’r fath fod yn gynhyrchiol iawn, yn effeithiol ac yn greadigol.
Pan fyddwch yn gweithio ‘ar gyflymder’, rydych yn gweithio’n galed ac yn gyflym am resymau da. Efallai bod argyfwng o ryw fath, cyfres o derfynau amser allanol cyflym neu bwysau cyflawni parhaus neu gynyddol.
Rydych yn ymwybodol o’ch diben strategol cyffredinol.
Rydych wedi sicrhau bod ‘amser tîm’ ar gael sy’n caniatáu i’r tîm siarad am bwrpas, cymhelliant personol ac emosiynau, yn ogystal â phethau ymarferol a thactegau. Eich arf cudd yw’r amrywiaeth yn eich tîm. Gwerthfawrogir pawb am eu doniau unigryw ac rydych yn defnyddio ‘bwrdd adar’ neu fecanweithiau eraill i sicrhau eich bod i gyd yn wybodus ac yn canolbwyntio ar y tasgau cywir. Mae pawb yn gyfforddus o ran gofyn am gymorth. Rydych yn gweithio gyda’ch gilydd i sicrhau bod gan bob unigolyn amser adfer personol rhwng pyliau o ymgysylltu trylwyr. Rydych yn defnyddio’r adeg ailymuno ar ôl cyfnod o adferiad (gwyliau, cyrsiau hyfforddi ac ati) i nodi cyfleoedd ar gyfer gwella a’u rhoi ar waith.
Mae popeth yn digwydd yn gyflym iawn! Rydych yn dechrau teimlo allan o reolaeth neu efallai eich bod wedi teimlo felly ers peth amser. Mae terfynau amser rydych chi wedi’u gosod a therfynau amser allanol ond mae’n anodd dweud p’un yw p’un. Mae’n ymddangos fel pe bai yr hyn rydych chi’n anelu ato yn symud o gwmpas. Nid ydych chi’n gallu cofio’r tro diwethaf i chi drafod eich diben neu’ch nodau strategol.
Nid oes neb yn gofyn i chi sut ydych chi mewn gwirionedd ac nid oes gennych amser i ofyn i neb arall. Mae’r pwysau cyflawni yn barhaus ac yn cynyddu, heb amser i asesu eich cynnydd. Gallai cyflwyno arferion gofalgar eang/byr wneud gwahaniaeth mawr ond mae’n anodd gweld sut i neilltuo amser ar gyfer y rhain.
Cyn belled â’ch bod wedi sicrhau bod cyfnodau myfyriol ac amser dysgu gennych, mae gwaith sy’n ‘llifo’n dda’ neu weithio ‘ar gyflymder’ yn debygol o’ch gweld yn llwyddo. Bydd ‘gweithio fel lladd nadroedd’ bob amser yn eich dal yn ôl rhag sicrhau eich canlyniadau gorau.
Mae’n bosibl symud rhwng y sefyllfaoedd hyn.
Beth allwch chi ei wneud i symud eich patrymau gweithio o fod yn gweithio fel lladd nadroedd, i weithio ‘ar gyflymder’ ac i’r sefyllfa lle mae’r gwaith yn llifo’n dda?
Ôl ystyriaeth...
Beth fyddai’n digwydd pe baech chi yn rhoi eich ysgrifbin i lawr, yn cau eich gliniadur, ac yn myfyrio bob tro yr ydych chi’n teimlo’n wrthwynebus tuag at y gwaith wrth law neu ddim yn teimlo ei fod yn llifo’n dda?
Beth pe baech yn ei gwneud yn flaenoriaeth i chi wrando ar eich greddf ac ailystyried cyn parhau? Beth pe bai hyn yn bolisi? A bod pawb yn ei wneud? Beth pe bai’n rhywbeth arferol i ddweud “Nid wyf wir yn teimlo mai dyma’r defnydd gorau o’m hegni”?
Sut y gallwn ni alluogi pobl Cymru i ddefnyddio eu cryfderau a’u hegni’n dda? Sut y gallwn ni annog cydweithio da lle mae pobl yn gwneud yr hyn y maent yn mwynhau ei wneud ac yn ei wneud yn dda, gan ddysgu’n barhaus a bod y mae’r broses o wasanaethu eraill yn llifo’n dda?
Byrddau archwilio a byrddau gweithredol
Diweddaru i bobl eraill – tair neges allweddol
Mae'n rhaid i bopeth ddechrau yn rhywle. Dyma rai awgrymiadau allweddol ar gyfer dechrau eich gweithgaredd, prosiect neu ymyrraeth:
Byrddau prosiect a rhaglen
Dewch ag arweinwyr y prosiect at ei gilydd yn rheolaidd ar gyfer cyfarfodydd rhaglen. Os nad yw unigolyn yn gallu bod yn bresennol, dylai anfon dirprwy sy’n gweithio ar y prosiect.
Cyd-destun – yn debyg iawn i sesiwn gyffredin (h.y. pob unigolyn yn ateb y cwestiynau canlynol am ei brosiect yn ei dro)
Sut ydw i?
Sut mae’r prosiect (y rhan o’r rhaglen rydych chi’n gyfrifol amdano)?
Cynnydd – ers y cyfarfod diwethaf (eto, mae pob cyfranogwr yn ateb y cwestiynau canlynol yn ei dro)
Beth ydym ni wedi’i gyflawni?
Beth sy’n achosi anhawster i ni ar hyn o bryd? (problemau)
Beth allai fynd o’i le cyn bo hir? (risgiau uniongyrchol)
Beth allem ni fod wedi’i fethu? (risgiau hirdymor)
Beth ydym wedi methu â’i ddeall?
Adnoddau (fel cylch cyn symud ymlaen at drafodaeth fwy cyffredinol)
Beth ydym wedi’i ddysgu? (o gyfnod presennol y prosiect a’r drafodaeth hon hyd yn hyn)
Pa ryngddibyniaethau y mae angen i ni fod yn ymwybodol ohonynt?
Pa newidiadau y mae angen i ni eu gwneud er mwyn symud y rhaglen yn ei blaen?
Cam gweithredu (sicrhau bod llais pawb wedi’i glywed yn y drafodaeth ar adnoddau, cyn gofyn i bobl gynnig neu ofyn o dan y penawdau canlynol)
Dyraniadau ac addasiadau
Amserlenni a’r camau nesaf
(Cytuno ar gamau gweithredu a’u nodi wrth iddynt godi)
Negeseuon
Pwy arall sydd angen cael gwybod am ein penderfyniadau?
Sut y byddwn ni’n gwneud hyn? (yn syth bin!)
Gorffen – Sut ydym yn teimlo nawr? I bwy ydym ni eisiau diolch a pham?
Gellir defnyddio’r dechneg hon ar gyfer byrddau cyfarwyddwyr a grwpiau lefel uchel eraill megis byrddau rhaglenni neu grwpiau cyfeirio rhanddeiliaid.
Mae gan unrhyw fwrdd o leiaf ddau ddull allweddol y mae angen iddo eu defnyddio i drafod y deunyddiau a gyflwynir iddo: dull cydweithredu a dull herio. Mae’n bwysig dewis y dull cywir ar gyfer y sefyllfa dan sylw. Mae llawer o fyrddau yn dewis un o’r dulliau hyn yn gynnar ac yn datblygu sgiliau cadarn yn y maes hwn. Fodd bynnag, gall hyn arwain at golli’r sgiliau sy’n gysylltiedig â’r dull arall ynghyd â llai o gyfle i’w ymarfer.
Drwy ddefnyddio’r dull hwn, byddwch yn gweithio’n gyfartal a bydd pawb yn cyfrannu rhywbeth defnyddiol at y drafodaeth. Byddwch yn hoelio sylw ar ddatrys y broblem gyda’ch gilydd. Byddwch yn edrych yma ar yr hyn a allai fod yn bosibl, y cyfleoedd arloesol, a pha gamau y gallech eu cymryd i helpu rheolwyr?
Drwy ddefnyddio’r dull hwn, bydd y weithrediaeth yn ceisio herio’r rheolwyr i brofi pa mor ymarferol, cynaliadwy neu effeithiol yw’r weithred, y prosiect neu’r rhaglen arfaethedig. Byddwch yn edrych yma am yr hyn a allai fynd o’i le a sut y gellir ei droi yn gyfle i wneud rhywbeth hyd yn oed yn well.
Ar gyfer pob eitem ar yr agenda, nodwch pa un ai’r dull herio neu’r dull cydweithredu y gofynnir amdano (er enghraifft gydag emoticonau addas).
Cynhaliwch ddiwrnodau cwrdd i ffwrdd lle y gall aelodau’r bwrdd ymarfer defnyddio un o’r dulliau, neu’r ddau ohonynt, i fireinio eu sgiliau.
Penderfynwch ar eich cyfres gyntaf o dair neges allweddol ar y dechrau a’u rhannu’n eang:
Mae Saernïaeth Dyfodol Cynaliadwy yn cynnwys manylion am y newidiadau rydym yn ceisio eu gwneud yn Llywodraeth Cymru er mwyn gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Dyma beth y mae'n ei ddweud am risgiau:
Mae angen i ni symud oddi wrth;
DDOGFENNU RISGIAU lle rydym yn rhoi ein ffydd mewn cofnodion risg a phrosesau manwl wedi’u cynllunio’n ofalus sy'n ein hamddiffyn rhag beirniadaeth ac yn ein helpu i nodi'r achos ar ôl i fethiannau ddigwydd. Rydym yn mynd i'r afael â symptomau yn hytrach na’r achosion sylfaenol.
Mae angen i ni tuag at;
REOLI RISGIAU lle gallwn ond ddysgu a gwella drwy gymryd risgiau. Mae cynyddu ein dealltwriaeth o'r risgiau hirdymor sylweddol sy'n ein hwynebu nawr ac yn y dyfodol yn ein helpu i gynyddu’n aruthrol ein hawydd i gymryd risgiau tymor byr a reolir yn briodol.
Nid y gwaith papur yw’r agwedd bwysicaf ar reoli risgiau ond y ffordd rydym yn trafod, prosesu ac ymateb i'r gwaith papur hwnnw. Gallwn wella'r agwedd hon ar yr hyn a wnawn drwy wella ansawdd ein cyfarfodydd risgiau.
Defnyddiwch eich ymateb i'r cwestiynau hyn i ail-ddylunio neu ail-ddyfeisio eich proses risgiau.
Un o'r pethau pwysicaf i'w wneud yw cynnal momentwm cyfarfod. Peidiwch â chanslo cyfarfod os mai dim ond dau ohonoch a all fod yno. Yn hytrach, defnyddiwch y cyfarfod llai hwn fel cyfle i fynd yn ddyfnach neu i fyfyrio ar y broses risgiau ei hun.
Dyma rai o'r cwestiynau efallai yr hoffech eu gofyn (gan ddefnyddio rowndiau) yn ystod eich cyfarfodydd adolygu risgiau. Dewiswch un i dri i'w rhannu ym mhob cyfarfod.
Meddyliwch am eich cwestiynau penodol eich hun sy'n addas i'ch amgylchiadau chi. Rhowch gyfle i bawb ymateb. Defnyddiwch beth o'r cyngor cyffredinol ar wella ansawdd eich cyfarfodydd i'ch helpu.
Yn ogystal â dechrau, mae’n rhaid i bopeth hefyd ddod i ben. Dyma rai awgrymiadau gwych ar gyfer dod â'ch gweithgaredd, prosiect neu ymyrraeth i ben. Efallai y bydd rhai o'r gweithgareddau hyn yn cael eu cyfuno ar gyfer prosiectau bach ond peidiwch â'u gwneud yn gymhleth, gan fod angen yr holl gydrannau arnoch chi.
Rheoli gwybodaeth mewn byd o ansicrwydd
Dyma ddwy wers o fyd natur:
Haelioni
"Un diwrnod, roeddwn i'n casglu mafon blasus, melys eu harogl o'n câns mafon ni, pan ges i fy nharo gan faint o ffrwythau oedd o’m cwmpas. Roeddwn i fy hun yn casglu digonedd o fafon coch llachar, ond roedd y mwyeilch a'n hieir ni hefyd yn cael eu rhan o'r cnwd. Sylweddolais i nad yw natur yn penderfynu faint i'w gynhyrchu yn union, ac wedyn cynhyrchu'n union y maint hwnnw. Y gwir yw ei bod yn cynhyrchu cymaint ag y bo modd gyda pha egni bynnag sydd ganddi!"
Amynedd
"Rwy'n cerdded i'r gwaith bob dydd bron – dwy filltir a hanner pob ffordd, i fyny ac i lawr bryn mawr. Un mis, roedd gwaith yn cael ei wneud i newid y pibelli sy'n mynd o dan y cae ar ben y bryn. Er mwyn gwneud y gwaith, roedd y bwrdd dŵr wedi rhoi ffens o amgylch yr ardal roedd angen iddyn nhw ei defnyddio, er mwyn atal y ceffylau a'r defaid rhag mynd i mewn. Wrth imi fynd heibio bob dydd, gwnes i sylwi nid yn unig ar y gwaith, ond hefyd ar newid yn yr hyn a oedd yn tyfu o gwmpas y gwaith. Yn y cae lle roedd pori wedi cael ei atal dros dro, roedd golygfa hyfryd o ellesg melyn a thegeirianau pinc wedi ymddangos yn sydyn. Pan ofynnais i gydweithiwr am y peth, dywedodd wrtha i ei bod yn bosibl bod yr hadau wedi bod yn aros yn segur am flynyddoedd!"
Sut allwch chi ddefnyddio'r gwersi hyn o fyd natur – amynedd a haelioni – yn eich gwaith bob dydd?
Sut y gallwn ni gynorthwyo sefydliadau, unigolion, adrannau neu gymunedau orau i gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol? Dewch i ni ddefnyddio dull systemau.
Wedi’i addasu o The new zeitgeist: relationships and emergence | gan Bill Bannear | Medium
Defnyddiwch y cwrs byr rhad ac am ddim hwn am y dull systemau.
Defnyddiwch Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr e.e. gyda'r Labordy Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr
Dewiswch ddulliau o gymryd rhan yn rhagweithiol sy'n:
Cymhwyso'r tair elfen dysgu allweddol hyn gan Lywodraeth Cymru:
Canolbwyntio eich datblygiad ar y meysydd hyn a nodwyd mewn ymchwil ar y sgiliau allweddol ar gyfer arweinwyr iechyd cyhoeddus:
Yn y cyfnod cynyddol cythryblus, ansicr, newydd ac amwys hwn (TUNA yn Saesneg), mae angen i ni gymryd gofal i beidio ag ailwneud y camgymeriadau a arweiniodd at y sefyllfa hon.
Dyma rai o’r prif awgrymiadau o safbwynt systemau.
Mae pob model yn frasamcan o'r byd go iawn.
Nid oes unrhyw fodel byth yn gyflawn neu'n hollol gywir.
Mae hyn yn cynnwys:
Defnyddiwch eich model i wneud y dyfaliad gorau posib ond ceisiwch dystiolaeth byd go iawn bob amser trwy brototeipio'ch ateb i ddarganfod mwy.
Mae data poblogaeth gyfan hefyd yn fodel, felly dim ond brasamcanu'r byd go iawn y mae’n ei wneud.
Bydd tebygolrwydd poblogaeth gyfan yn rhoi syniad i chi o’r darlun mawr.
Ni all data poblogaeth ddweud wrthych beth sy'n amhosibl ar lefel leol.
Ni all ddweud wrthych beth i'w wneud mewn man penodol.
Gall ddweud wrthych rai o'r cwestiynau i'w gofyn am y lle hwnnw.
Dim ond yr hyn a allai fod yn debygol neu'n annhebygol y cewch wybod. Bydd ffactorau lleol yn effeithio ar y tebygolrwydd hyn. Bydd yr annhebygol yn parhau i ddigwydd.
Felly byddwch yn effro i bob posibilrwydd.
Ni all data poblogaeth gyfan wneud rhagfynegiadau: ni fydd yn dweud wrthych beth fydd eich profiad mewn gwirionedd.
Yr hyn sydd heb newid yw bod gennym ddiddordeb o hyd mewn tystiolaeth!
Fodd bynnag,
Mae'r mathau o dystiolaeth y mae gennym ddiddordeb ynddynt wedi ehangu. Nid yw'n iawn bellach i ddibynnu’n ormodol ar un ffynhonnell dystiolaeth benodol. Mae profiad byw pobl yn arbennig o bwysig. Mae rhai ffynonellau tystiolaeth yn ddefnyddiol mewn llawer o achosion ond gallant hefyd gyfyngu ar ein safbwyntiau er enghraifft, treialon rheoli ar hap yn creu deuoliaeth ffug.
Mae'r ffordd rydym yn dehongli'r data wedi newid. Er enghraifft, yn y gorffennol efallai ein bod wedi dweud 'o, dim ond yr effaith plasebo yw hynny' ond gall effaith plasebo fod yn sylweddol, felly efallai y byddwn yn ymchwilio i sut y gallwn ei ddefnyddio'n foesegol ac yn ddiogel i sicrhau canlyniadau.
Mae ein dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei olygu pan fydd rhywun yn gofyn am fwy o dystiolaeth wedi newid. Mae pob penderfyniad yn seiliedig ar emosiwn. (Ydyw, go iawn - allwch chi ddim gwneud penderfyniad heb emosiwn!) Ond weithiau mae ein hemosiynau'n cael y gorau arnom ac rydym yn mynnu prawf ychwanegol i osgoi ein hemosiynau anodd ein hunain neu i oedi cyn gwneud penderfyniad. Cyn hyn, bydden ni wedi derbyn cais o'r fath. Nawr byddem am helpu gyda'r heriau emosiynol gwaelodol, yn ogystal â chynhyrchu data defnyddiol (newydd o bosib) ar y pwnc.
Dylai popeth a wnawn bob amser fod yn seiliedig ar weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ar y cyd.
Gallai cwestiynau i ganolbwyntio ein sylwadau gynnwys:
Mae llawer o'n hymatebion i'r byd o'n cwmpas yn llawer mwy rhesymol nag y maent yn ymddangos ar yr olwg gyntaf. Dylid defnyddio'r model cymdeithasol (nid model meddygol neu therapiwtig yn unig) i'r heriau rydych chi'n eu hwynebu:
Sut mae'r system ei hun yn sâl neu'n ddi-fudd?
Mae pawb yn unigryw ac mae ganddynt eu rhesymeg eu hunain dros eu hymatebion a'u penderfyniadau. Gall rhesymeg pobl eraill fod yn debyg ond anaml y bydd yn union yr un peth â'ch un chi.
Ychydig iawn o bethau sy'n llinol. Bydd y rhan fwyaf o'r systemau rydych chi'n delio â nhw yn weoedd cymhleth. Yn hytrach na meddwl am lwybrau (lle gallwch sianelu nifer o bobl, lleoedd neu weithgareddau ac ati) meddyliwch am y berthynas rhwng yr agweddau neu'r unigolion yn y system neu dychmygwch y cylchoedd neu’r troellau.
Wrth werthuso cynnydd rydych chi am wybod beth ddigwyddodd ond mae eich model meddwl (ein meddwl rhagfynegol) eisoes wedi cyfyngu ar y mathau o ddata a phosibiliadau rydych chi'n debygol o'u gweld.
A allwch chi ddod o hyd i ffyrdd o ryddhau eich hun o'r cyfyng-gyngor hwn?
Sut alla i fod y cynghreiriad gorau posibl?
Sut alla i fod yn garedig i’r rhai hynny sydd ddim yn garedig i mi?
Beth yw cywilydd a beth allwn ni ei wneud amdano?
Beth yw 'eistedd gyda' a sut alla i ei wneud?
Beth sy'n ein helpu ni i ffynnu yn ystod y cyfnod heriol hwn?
I gynnig arweiniad, gwneud polisïau da a chyflawni’n effeithiol, mae angen inni fod y gorau y gallwn. Mae edrych ar ôl ein llesiant ein hunain a llesiant pobl eraill yn gwneud hyn yn bosibl. Bod yn iach yw’r allwedd i lwyddiant.
Dyma’n cynllun tri phwynt…
Ymgysylltwch…â’r bobl o’ch cwmpas. â theulu, ffrindiau, cydweithwyr a chymdogion; yn y cartref, gwaith, ysgol neu yn eich cymuned leol. Meddyliwch am y rhain fel conglfeini eich bywyd a buddsoddwch amser yn eu datblygu. Bydd adeiladu’r cysylltiadau hyn yn gymorth i chi ac yn eich cyfoethogi bob dydd.
Byddwch yn egnïol...Ewch am dro neu rhedwch. Ewch allan. Seiclwch. Chwaraewch gêm. Garddiwch. Dawnsiwch. Mae ymarfer corff yn gwneud i chi deimlo'n dda. Yn bwysicaf oll, darganfyddwch weithgaredd corfforol rydych yn ei fwynhau ac sy'n addas i'ch lefel o symudedd a ffitrwydd.
Cymerwch sylw ... Byddwch yn chwilfrydig. Cymerwch gip ar yr hyn sy’n hardd. Sylwch ar yr anarferol. Sylwch ar y newid yn y tymhorau. Sefwch yn y foment, pan fyddwch yn cerdded i'r gwaith, yn bwyta cinio neu'n siarad â ffrindiau. Byddwch yn ymwybodol o'r byd o'ch cwmpas a'r hyn rydych yn ei deimlo. Bydd myfyrio ar eich profiadau yn eich helpu i werthfawrogi'r hyn sy'n bwysig i chi.
Daliwch ati i ddysgu ... Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Atgyfodwch hen hobi. Cofrestrwch ar gwrs. Ymgymerwch â chyfrifoldeb gwahanol yn y gwaith. Trwsiwch feic. Dysgwch chwarae offeryn neu sut i goginio eich hoff fwyd. Gosodwch her y byddwch yn mwynhau ei chyflawni. Bydd dysgu pethau newydd yn eich gwneud yn fwy hyderus a bydd yn hwyl hefyd.
Rhowch... Gwnewch rywbeth neis i ffrind, neu ddieithryn. Diolchwch i rywun. Gwenwch. Gwirfoddolwch eich amser. Ymunwch â grŵp cymunedol. Edrychwch allan, yn ogystal â mewn. Gall gweld eich hun, a'ch hapusrwydd, mewn cysylltiad â'r gymuned ehangach, fod yn werth chweil ac mae’n creu cysylltiadau â'r bobl o'ch cwmpas.
Ymgysylltwch... Sut y mae eich gwaith yn ymwneud â phobl eraill? Sut gallwch chi feithrin a chryfhau perthynas? Sut gallwch chi wneud cysylltiadau sy'n helpu natur ac yn cefnogi ac yn cyfoethogi bywydau pobl? Trïwch ddefnyddio sgwrs gychwynnol
Byddwch yn egnïol ... Sut y gallai eich gwaith chi elwa o symud? A allwch chi adeiladu cyfarfod cerdded i mewn i'ch diwrnod? Sut y gallech chi weithio i annog eraill i fod yn egnïol gyda'i gilydd?
Cymerwch sylw ... Byddwch yn chwilfrydig. Beth sy'n hyfryd am eich gwaith? Beth sy'n digwydd yn y byd o'ch cwmpas a beth ydych chi'n ei deimlo? Bydd myfyrio ar eich profiadau yn eich helpu i wella'r hyn a wnewch.
Daliwch ati i ddysgu ... Rhowch gynnig ar rywbeth newydd. Ymgymerwch â chyfrifoldeb newydd neu edrychwch ar eich gwaith o berspectif newydd. Cymerwch risg wedi'i reoli. Arbrofwch.
Rhowch... Sut gallai eich gwaith chi ddefnyddio amser gwirfoddolwyr, bancio amser neu gydgynhyrchu? Beth allech chi ei gyfrannu a allai ysgogi pobl eraill i ymuno? Ydych chi wedi ceisio cynnig neu ofyn?
Mae pobl yn aml yn gofyn "Sut y galla i fod yn gynghreiriad i'r gymuned draws/ Du /teithwyr?" Mae bod yn gynghreiriad i unrhyw grŵp ymylol ar ei fwyaf effeithiol pan fydd eich gweithredoedd yn canolbwyntio ar egwyddorion allweddol sy'n cydnabod y cysylltiadau rhwng ymyleiddio a lle mae'r pŵer. Mae'r egwyddorion hyn ymhell o fod yn unigryw ac yn cael eu mynegi gan lawer o grwpiau a ymyleiddiwyd.
Peidiwch â cheisio bod yn berffaith. Anelwch at ddysgu neu ddeall rhywbeth newydd.
Siaradwch yn bwyllog a pharchus o'r galon, siaradwch â'r unigolyn a ymyleiddiwyd yn gyntaf (i gydnabod ei brofiad) ac yna â'r unigolyn sydd â phŵer (i ddangos eich dealltwriaeth ac i ennyn dysgu).
Os nad oes unrhyw unigolyn wedi’i ymyleiddio yn bresennol, cymerwch yr awenau wrth ymateb i'r digwyddiad.
Os yw rhywun wedi derbyn sylw amhriodol yn uniongyrchol, cefnogwch nhw i arwain.
Peidiwch ag ystyried eich diwrnodau gwael fel arwydd o wendid.
Dyna’r diwrnodau pan fyddwch chi’n brwydro galetaf.
Gyda charedigrwydd, gall diwrnodau drwg ddod yn gyfle ichi ddysgu mwyaf…
Mae angen i bobl deimlo’n ddiogel i fod yn garedig.
Pan fyddwn yn talu sylw, mae pob un ohonom yn garedig.
Pan fyddwn ar ein gorau rydyn ni’n ei chael yn haws i fod yn garedig i ystod ehangach o bobl.
Mae pob un ohonom yn ei chael yn anodd i fod yn garedig ar adegau.
Wedi holi ein hunain ar gyfer bwy mae caredigrwydd, daethom i’r casgliad ei fod
yn gyfrifoldeb sydd gennym i gyd, yn hytrach nag yn hawl sydd gennym
Nid yw caredigrwydd yn rhywbeth y gallwn neu y dylem ei ddisgwyl gan eraill.
Os ydym yn gwneud hynny, rydym yn ymddwyn mewn ffordd sy’n talu’n ôl am ymddygiad angharedig; ‘Doedd hi ddim yn garedig, felly fydda i ddim yn garedig’.
Mae angen i garedigrwydd fod yn bolisi personol, ymddygiad arferol, heb ddibynnu ar sut y mae eraill yn ymddwyn, gan gynnwys ni ein hunain.
Gall garedigrwydd fod yn bolisi cyhoeddus hefyd.
Ni all bolisïau caredig fod yn amodol ar bobl yn ymddwyn mewn ffordd benodol.
Ar hyn o bryd mae nifer o’n polisïau yn amodol ar ymddygiad ‘da’.
Beth fyddai’n ei olygu i lunio polisïau gwirioneddol garedig?
Beth fyddai’n ei olygu i lunio polisïau gwirioneddol garedig?
Nid yw’r rhan fwyaf o bobl yn ceisio brifo eraill. Nid ydynt yn bwriadu bod yn angharedig.
Nid yw pobl sydd â barn wahanol o angenrheidrwydd yn bobl ofnadwy.
Efallai nad yw rhai pobl wedi ymddangos yn garedig am beth amser. Beth sy’n digwydd iddynt:
Sy’n gwneud iddynt deimlo mor angharedig?
Weithiau mae pobl a oedd yn ymddangos yn garedig yn sydyn yn ymddwyn mewn ffordd angharedig.
Beth ddigwyddodd? Sut y gallwn ni helpu er mwyn iddyn nhw ail-ddarganfod eu caredigrwydd?
Rydyn ni angen ffiniau i deimlo’n ddiogel: Sut y gallwn ni greu ffiniau caredig?
Pan fyddwn yn cyrraedd pen ein tennyn, weithiau rydyn ni’n gwneud y penderfyniad i fod yn garedig i ni ein hunain. Mae hwn yn benderfyniad da.
Os gwnaf i edrych ar ôl fy hun yna (weithiau) byddaf i’n ddigon cryf i edrych ar dy ôl dithau hefyd.
Os wna i faddau i eraill, yna mi alla i anghofio am y peth – efallai na fyddwn yn cyfarfod fyth eto ond mae hynny yn iawn
Os gallwn faddau i’n gilydd ac i’n ni ein hunain, mae’n bosibl y gallwn oresgyn ein anhawsterau neu wahaniaethau ac mae’n bosibl y bydd ein perthynas yn gryfach.
Wrth inni ddatblygu’r sgiliau i fod yn garedig i ni ein hunain, gallwn eu defnyddio i ymateb yn fwy caredig i eraill.
Wrth inni ddatblygu sgiliau o fod yn garedig i eraill, gallwn eu defnyddio i fod yn garedig i ni ein hunain.
(Gallwch ddechrau ar naill ben i’r broses wych hon!)
Y prif gwestiynau i holi eich hunan:
“Rydw i wedi dysgu y bydd pobl yn anghofio yr hyn ddywedoch chi, ac yn anghofio’r hyn a wnaethoch, ond ni fydd pobl byth yn anghofio sut y gwnaethoch chi iddyn nhw deimlo.” – Maya Angelou
“Dewrder yw’r rhinwedd pwysicaf. Heb ddewrder, allwch chi ddim ymarfer unrhyw un o’r rhinweddau eraill yn gyson.” – Maya Angelou
Dychmygwch bod yn esgidiau unigolyn angharedig a gweld o’i safbwynt ef ei fod yn garedig, ac mai chi sy’n bod yn angharedig. Edrychwch ar waith Byron Katie – “The Work”.
Mae AnxietyUK yn awgrymu ymarfer techneg "Apple" i ymdrin â phryder a gofid.
Yn gyffredinol
Am wybodaeth benodol yn ymwneud â'r firws COVID-19
Mind: Coronavirus and your wellbeing
Am wybodaeth benodol am yr argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth
Find Support (climatepsychologyalliance.org)
Mae cywilydd iach yn ein galw i fod yn effro i'r ffyrdd rydyn ni’n byw o safleoedd ffug o fod uwchlaw rhai neu ryw ddatgysylltiad peryglus.
Fel cwmpawd moesol, gall y math hwn o gywilydd ein harwain a chefnogi newidiadau yn ein hymddygiad i fod yn fwy agored ein calonnau, yn llai rhagfarnllyd ac i herio gwahaniaethu neu orthrwm yn fwy.
Os ydym yn anwybyddu neu'n gwadu cywilydd iach, rydym mewn perygl o aros ar wahân, yn gaeedig ac wedi’n datgysylltu.
Mae cywilydd gwenwynig yn cyfeirio at syniadau a theimladau dirdynnol o fod yn ddiwerth, credoau o fod yn ddiffygiol yn gynhenid, ac mae'n cael ei drosglwyddo rhwng pobl yn ymwybodol ac yn anymwybodol fel ffordd o atgyfnerthu dynameg pŵer mewn teuluoedd, cymunedau, diwylliannau a systemau.
Gall beri i ni roi rhannau o’n hunain mewn bocsys, gan gadw rhannau ohonom ein hunain yn breifat, yn gudd ac yn unig, neu i'r gwrthwyneb gall ein gyrru i orwneud pethau, gan brofi ein bod yn wir 'mwy na digon'.
Yn baradocsaidd, ni fyddwn yn gallu gwrando ar alwad ein cywilydd iach, oni bai ein bod yn barod i wynebu gwenwyn y negeseuon cywilydd gwenwynig yr ydym wedi'u llyncu. Oni bai ein bod yn gwrando ac yn ymateb i'n cywilydd iach, byddwn yn parhau gyda’r dyinameg pŵer anymwybodol, yn cam-ddefnyddio ein braint ac yn parhau'n anwybodus ynghylch sut i ymateb i'r hyn sy'n wirioneddol bwysig. Dyma'r cwestiwn felly;
Sut y gallwn ni groesawu cywilydd iach yn ofalus a gofyn: Beth yw eich neges?
Gall aduno â rhannau ohonom sydd wedi'u cuddio’n ddiogel oherwydd cywilydd fod yn debyg i ddod o hyd i gariadon coll gan mai ein rhannau mwyaf gwerthfawr sydd wedi’u cuddio fel ein sensitifrwydd neu ein pŵer.
I lawer ohonom bydd adegau pan fydd y stormydd cywilydd yn rhy llethol i'w prosesu ar ein pennau ein hunain. Nid yw hyn yn arwydd o wendid, mae'n fwy o arwydd o raddfa'r hyn y gofynnwyd i chi ei gario yng ngwraidd eich bod. Gall cael therapydd neu ffrind da iawn i gerdded ochr yn ochr â chi wrth i chi wneud y gwaith hwn fod yn hynod gefnogol i'r broses o ddatgymalu eich hun o grafangau cywilydd.
Gofalwch amdanoch eich hun ac eraill trwy wneud y pethau bychain.
Mae Tara Brach yn disgrifio proses pedwar cam ar gyfer ymateb i gywilydd (yn Saesneg RAIN - Recognise; Allow; Inquire; Nurture): https://www.tarabrach.com.
Mae eistedd gyda'n profiadau yn ddull sydd wedi'i wreiddio mewn caredigrwydd, chwilfrydedd ac amynedd ar gyfer ymdrin â'n meddyliau, ein teimladau a'n synhwyrau.
Nid 'eistedd gyda' yw'r peth iawn i'w wneud bob amser. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis yr amser a'r lle iawn, eich bod yn teimlo'n barod ac yn gallu bod yn ofalgar tuag at eich hunan. Os nad yw'n teimlo'n iawn, rhowch gynnig ar rywbeth arall. (I gael syniadau, gwyliwch y clipiau fideo isod.)
Mae 'eistedd gyda' yn canolbwyntio ar fod yn bresennol yn ein proses yn hytrach nag ar geisio newid neu drwsio rhywbeth. Mae'n gofyn inni ddod yn agosach atom ein hunain, rhoi pethau sy'n tynnu sylw o'r neilltu ac annog y gallu i oddef mwy o anghysur ac ansicrwydd.
Mae rhai yn teimlo bod canolbwyntio ar eu hanadl yn ddefnyddiol. Mae Joanna Macy yn siarad am 'anadlu drwy' er mwyn helpu i fod yn bresennol gydag emosiynau neu sefyllfaoedd anodd.
Mae rhai yn teimlo bod cysylltu eu traed ar y ddaear yn ddefnyddiol, gan synhwyro'r coesau, y breichiau neu'r bol.
Beth sy'n eich helpu chi i ddal eich emosiynau anodd neu eistedd gyda nhw?
Bydd yr amser y mae'n ei gymryd i feithrin y gallu hwn yn dibynnu ar ein lefelau straen a'r modd y mae profiadau bywyd rydyn ni wedi'u hwynebu eisoes wedi effeithio arnom ni.
Mae meithrin y gallu i 'eistedd gyda' yn arfer bywyd parhaus. Cymerwch eich amser. Byddwch yn garedig.
Ymrwymwch i roi cynnig arni dros gyfnod o amser.
I ddechrau, byddwch yn sylwi ar yr holl ffyrdd y byddwch chi'n gwneud unrhyw beth heblaw am 'eistedd gyda'. Efallai y bydd hyn yn gwneud ichi deimlo'n rhwystredig ond mae datblygu'r ymwybyddiaeth hon yn gam pwysig iawn.
Dewiswch rywbeth penodol i eistedd gyda ~ teimlad corfforol, emosiwn, ffordd o feddwl, naratif y meddwl.
Chwaraewch gyda'r cwestiwn ~ 'sut beth yw hyn?' a gweld a ydyw'n bosibl profi'r profiad yn onest ~ gan wybod, yn y pen draw, er eich bod efallai eisiau teimlo'n wahanol, na all yr arbrawf hwn fynd o'i le.
Rhowch gynnig ar reol 5 neu 10 munud ~ arhoswch yn bresennol ac yn chwilfrydig i'r hyn rydych chi wedi dewis canolbwyntio arno am 5 neu 10 munud. Os ydych chi'n gallu aros am gyfnod hirach ar ôl y cyfnod hwn, estynnwch eich amser 'eistedd gyda'. Os na, yna mae'n bryd ichi wneud rhywbeth gwahanol.
Gall cofnodi eich profiad fod yn ddefnyddiol, neu ei rannu â chyfaill dibynadwy.
Peidiwch â dawnsio gydag emosiynau anodd ar eich pen eich hun; gofynnwch am gymorth natur, tasgau bach, creadigrwydd neu ffrind dibynadwy.
Byddwch yn garedig tuag at eich hunan ym mha bynnag ffordd y gallwch chi. Rydych chi'n cael eich cefnogi ac rydych chi'n ddigon.
Cymerwch seibiannau i wneud tasgau bach, symud eich corff (er enghraifft tynnu lluniau neu gerdded) a bod ym myd natur.
Mynegwch - disgrifiwch i wrandäwr da neu gyfaill diogel yr hyn rydych chi'n sylwi arno neu'n ei deimlo. (Gofynnwch i'ch cyfaill wrando heb ymyrryd a'i wahodd i wneud yr un fath).
Cyfres o bum recordiad byr o dan arweiniad yw Settling Back into Yourself i’ch helpu i ddod yn agosach at eich profiad. Os ydych chi'n newydd i'r arfer o ‘eistedd gyda’, gallai'r recordiadau hyn fod yn ddefnyddiol i adeiladu sylfaen i ymarfer oddi arni. Mae'r recordiadau yn eich tywys chi drwy'r camau canlynol:
Gallwch gael gafael arnyn nhw am ddim gan Jenny Rose Smith.
Pan fo straen da yn troi'n ofid
Pam y mae amser adfer mor bwysig
Gosod nodau mewn amgylcheddau heriol
Gweithio drwy ofn
Beth sy'n digwydd i'ch corff a'ch meddwl pan fyddwch chi'n ofnus...a sut i ymdopi
Gofid a gorbryder ynghylch yr hinsawdd
Wrth i chi ddarllen, gofynnwch i'ch hun: Pa un o'r rhain sy'n gweithio i chi? Pa un ydych chi'n teimlo fel canolbwyntio arno nesaf? Pa un ydych chi erioed wedi rhoi cynnig arno (eto)?
Yn seiliedig ar destun o Telling the story: the heart and soul of successful leadership gan Geoff Mead.
Mae ein hymdeimlad o hunaniaeth – pwy ydyn ni – yn newid pan fyddwn ni’n newid y storïau rydyn ni'n eu hadrodd amdanom ein hunain
Mae sefydliadau, grwpiau a chymunedau yn newid pan fydd y storïau a'r ddynameg adrodd storïau (hynny yw, y prosesau a ddefnyddir i adrodd storïau yn a sut mae pobl yn gwneud synnwyr ohonynt) rhwng pobl yn newid.
Mae ein barn a'n profiad o'r byd yn newid wrth i ni gwestiynu'r meta-naratifau cyffredinol a dychmygu posibiliadau newydd.
Mae tair elfen i arweinyddiaeth naratif:
Sylwch sut mae gwreiddiau coed yn rhannu maeth gyda gweddill y ddaear. Sylwch ar gryfder a hyblygrwydd y boncyff. Sylwch sut mae'r canopi yn amsugno golau, yn creu ac yn ymateb i egni.
Mae trosiad y goeden yn mynegi'r berthynas rhwng tair elfen arweinyddiaeth naratif:
Gwreiddiau = Adnabod eich hun
Boncyff = Sefyll dros rywbeth
Canopi canghennau a dail = Dim ond cysylltu
Nid angen i chi rannu oni bai eich bod yn dymuno gwneud hynny...
Ymateb i syniadau neu deimladau sy'n gwrthdaro yn y foment
Trawsnewid gwrthdaro hirach trwy gyfryngu
Mae gwrthdaro, fel cydweithio, yn digwydd yn naturiol mewn unrhyw system. Mae gwrthdaro yn awyddus i droi’n ddysgu. Mae gwrthdaro yn llawn dysgu posibl.
Pan fyddwn mewn gwrthdaro rydym yn aml yn teimlo llawer o emosiynau anodd fel euogrwydd, embaras neu gywilydd. Mae ein meddwl hefyd yn adrodd storïau i ni ein hunain i esbonio beth sy'n digwydd. Er mwyn caniatáu i wrthdaro droi’n ddysgu, mae angen i ni roi lle i'r meddyliau a'r teimladau hyn fodoli a newid.
Mae’n haws trawsnewid gwrthdaro llai (micro-wrthdaro), cyn i'r haenau ychwanegol hynny o deimladau a meddyliau bentyrru neu cyn i ryngweithio anodd ailddigwydd. Drwy greu amgylcheddau cefnogol diogel / dewr, gallwn atal micro-wrthdaro rhag dod yn fwy ac weithiau eu trawsnewid yn anweledig i'r dysgu y maent yn ceisio bod.
Os yw micro-wrthdaro yn parhau heb sylw, gall ddiflannu’n naturiol neu gall waethygu’n rhywbeth mwy. Dyma pryd mae angen cymorth arnom gan eraill i gyfryngu, tystio a chefnogi trawsnewidiad ein gwrthdaro. Mae hyn yn cymryd amser ac amynedd ac yn aml mae'n golygu trawsnewid grŵp ehangach o bobl.
Y nod yn yr holl awgrymiadau isod yw dod o hyd i ffyrdd o ddyfnhau a chryfhau perthynas ag eraill ac ychwanegu mwy o offer i'n harferion tosturiol hefyd a sylwi ar ac ystyried unrhyw newidiadau ymae eu hangen i systemau ehangach (gan ddefnyddio'r model cymdeithasol).
I egluro; dydyn ni ddim yn ceisio atal gwrthdaro rhag digwydd. Yn hytrach, rydyn ni’n ceisio galluogi gwrthdaro i drawsnewid yn rhyw fath o ddysgu. Dydyn ni ddim yn gwybod ar ba ffurf y bydd y dysgu hwn yn digwydd, ond rydyn ni’n dysgu sut i'w helpu i ddod i'r amlwg.
Mae atal yn golygu rhoi sylw i'n holl anghenion, fel grŵp ac fel unigolion, gan gynnwys anghenion sy'n ymddangos fel rhai sy’n gwrthdaro, mor gynnar ac mor dosturiol ag y gallwn.
Mae hyn yn aml yn golygu newid sut rydym yn cwrdd ac yn siarad â'n gilydd. Dyma rai o'r syniadau rydyn ni wedi rhoi cynnig arnynt. Cododd llawer o'r syniadau hyn o brosesau trawsnewid gwrthdaro rydyn ni’n eu disgrifio yn yr adran nesaf.
Mae gwrthdaro yn rhan anochel o fywyd, ac fe fyddwn ni i gyd yn ei wynebu.
Cyn belled nad ydym mewn perygl, nid yw gwrthdaro yn arwydd bod rhywbeth o'i le. Mae'n gyfle i ddysgu a thyfu.
Nid yw gwrando yn fater o gytuno.
Sut allwn ni gytuno i anghytuno, a/neu gytuno i siarad yn ddyfnach?
Pan fyddwn ni'n ceisio ymateb yn dosturiol i wrthdaro, rydyn ni'n arbrofi gyda chamau ymarferol, gan gynnwys camau a allai:
Mae risg ynghlwm wrth bob dysgu. Nid yw dysgu rhywbeth un unig yn debygol o deimlo'n hollol gyfforddus (o leiaf nes bod gennym awydd go iawn i ymarfer).
Nid yw pob diwrnod gystal â'i gilydd. Mae'n bwysig dewis pryd rydyn ni'n barod i geisio ymateb mewn modd tosturiol iawn a phryd y mae angen inni gymryd cam yn ôl.
Drwy sylwi ar wrthdaro y tu mewn i ni ein hunain, rydyn ni'n sylwi ar wrthdaro â rhywun arall. Un o'r pethau pwysicaf rydyn ni wedi sylwi arno, o bosibl, yw mai dim ond drwy sylwi ar wrthdaro y tu mewn i ni ein hunain, y gallwn ni sylw ar wrthdaro â rhywun arall. Mae'r gwrthdaro mewnol hwnnw'n rhywbeth y gallwn ni weithio arno naill ai ar y pryd neu'n nes ymlaen, gydag eraill neu ar ein pen ein hunain (i ryw raddau).
Dyma rai o'r pethau rydyn ni'n rhoi cynnig arnyn nhw yn y foment, pan fyddwn ni newydd sylweddoli ein bod ni wedi sylwi ar wrthdaro:
Wrth ddefnyddio'r dulliau hyn neu ddulliau eraill, gallwn ni geisio nodi ymhle yn y corff rydyn ni'n teimlo'r gwrthdaro.
Sut y mae'r gwrthdaro mewnol hwn yn teimlo?
Beth y mae'n ceisio ei gyfrannu at y sgwrs?
Sut y gallaf wahodd yr unigolyn arall i ymuno â mi?
Dyma un ffordd rydyn ni wedi cynnal cyfryngu llwyddiannus lawer gwaith o’r blaen. Mae cyfryngu yn broses sy'n egin. Mae pob gwrthdaro yn unigryw ac mae'n bwysig ymddiried yn y broses, ymddiried ynoch chi’ch hun i ymateb yn y foment ac ymddiried mewn peidio â gwybod beth fydd yn digwydd.
Arhoswch yn bresennol yn yr hyn sy'n digwydd a gadewch i bethau ddatblygu. Gall canol yr anghytundeb ddod yn glir a diflannu ar unrhyw adeg yn ystod y broses hon.
Dylid cynnig cyfryngwr a enwir a chyfryngwr cynorthwyol i'r ddau gyfranogwr. A ydyn nhw'n hapus i weithio gyda'r cyfryngwyr hyn? Os na, dylid cynnig cyfryngwyr gwahanol.
Gwahoddwch y pedwar cyfranogwr i ddod â thyst gyda nhw, nid i gymryd rhan yn y sgwrs ond i wylio a gwrando, i fod yn glustiau ychwanegol i'r cyfranogwyr neu i'r system ddysgu ehangach.
Cyn y cyfarfod, gall y cyfryngwr arweiniol ddarparu cwestiynau neu ddogfennau yn seiliedig ar y manylion canlynol ar wahân i bob cyfranogwr. Mae'r rhain yn galluogi cyfranogwyr i fyfyrio, meddwl, ac efallai ysgrifennu, amdanynt eu hunain, eu teimladau, eu harddull a'u cymhelliant, cyn y sesiwn.
Gwnewch yn glir ar y cam yma y gallai fod angen mwy nag un sesiwn i ddarparu'r cymorth y mae ei angen a gallai fod yn rhan o broses hirach.
Gellir cynnal y broses o archwilio a chefnogi newid gyda'n gilydd mewn ystafell rithwir neu un go iawn. Gall cerddoriaeth dawel wrth i chi fynd i mewn i'r ystafell fod yn ddefnyddiol i alluogi dechrau tawel heb neb yn siarad.
Bydd y cyfryngwr yn croesawu pawb i'r gofod. Mewn cyfarfod rhithwir, efallai y byddant yn sbotoleuo’r pedwar cyfranogwr i ganolbwyntio ein sylw. Mewn ystafell gorfforol, efallai y gofynnir i dystion symud eu cadeiriau ddau gam yn ôl.
Bydd y cyfryngwr yn esbonio'r broses y byddwn yn ei defnyddio, gan gynnwys pedwar cam y mae'r cyfranogwyr eisoes wedi'u gweld ar y ddogfen baratoi:
Mae'r rhain yn seiliedig ar dystiolaeth o ymholiad gwerthfawrogol sy’n dechrau gyda'r hyn sy'n gweithio'n dda a beth yw ein dyheadau (yn hytrach na'r hyn sydd wedi torri neu ddim yn gweithio). Gall hyn ein helpu i symud ymlaen yn fwy effeithiol. Efallai y byddwn yn dod yn ôl at y pethau anoddach hyn yn nes ymlaen yn y broses. Bydd y cyfryngwr yn esbonio’r canlynol:
Bydd y cyfryngwr yn gwirio a ydyw pawb yn teimlo'n dda ac yn ddigon diogel i roi cynnig ar sesiwn heddiw. (Os na, byddwn yn ailddechrau ar ddiwrnod arall, rhywle arall, a/neu ar adeg arall.)
Bydd y cyfryngwr arweiniol yn cyflwyno'r cyfryngwr cynorthwyol a fydd yn helpu gyda chadw amser a gwylio hwyliau. Byddant yn gofyn i bobl roi'r gorau i siarad unwaith y byddant wedi cael eu hamser penodedig. Efallai y byddan nhw'n awgrymu bod pawb yn cymryd eiliad i oedi os yw emosiynau'n drech. Bydd y cyfryngwr cynorthwyol yn esbonio y gall eraill hefyd alw am saib pryd bynnag y bydd ei angen arnynt.
(Gallwch rannu'r tasgau mewn gwahanol ffyrdd, fel sy'n addas i'r tîm cyfryngu.)
Os yw'n briodol, bydd y cyfryngwr cynorthwyol yn darparu ymarfer sylfaen sy'n addas i'r grŵp.
Bydd y cyfryngwr arweiniol yn egluro faint rydych chi'n gobeithio ei gwmpasu heddiw, y bydd cyflymder y cyfarfod yn cael ei arafu i ganiatáu mwy o amser, os yw'n teimlo'n rhy frysiog.
Mae'r adran hon yn ymwneud â'n dyhead, neu yr angen, i fod gyda'n gilydd yn yr un lle. Beth yw'r rhesymau pam rydych chi'n dewis cydweithio? Pam ydych chi, <<enw>>, angen cydweithio gyda <<enw>>? A <<enw>>, pam ydych chi angen cydweithio gyda <<enw>>?
Pwy sydd eisiau mynd yn gyntaf?
[Bydd y unigloyn hwn yn parhau i fod yn gyntaf ar gyfer y cwestiwn yma a'r holl gwestiynau canlynol.]
Bydd y cwestiwn yn cael ei ailadrodd i'r unigolyn arall. Mae pob ateb yn cael ei amseru (er enghaifft, 3 munud).
Mae distawrwydd yn cael ei groesawu a'i gynnal. Ar ddiwedd yr amser, mae'r cyfryngwr cynorthwyol yn rhoi arwydd, gan ddweud os oes angen, bod yr amser hwnnw ar ben.
Efallai y bydd y cyfryngwr yn gofyn yn dawel a oes mwy i'w ddweud ac os/pan fydd oedi terfynol yn amlwg, bydd yn symud ymlaen i'r adran nesaf.
Ofnau - Eglurwch bwysigrwydd ofnau a'r pŵer y gall ofn ei gael arnom os na chaiff ei fynegi neu os na sylwir arnoi. Mae hyn yn ymwneud â'r ofnau sydd gennych ynghylch y berthynas hon. A oes gennych chi unrhyw bryderon a beth ydyn nhw?
[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]
Gobeithion - Bydd enwi eich gobeithion yn eich helpu i wybod eich bod ar y trywydd iawn gyda'ch gilydd ac i ddathlu gyda'ch gilydd pan fydd gobeithion rhywun wedi'u cyrraedd.
Beth yw eich gobeithion?
[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]
Mae'n wendid dynol i weld ein hunain fel canolbwynt y bydysawd. Pan fydd rhywun yn dweud rhywbeth angharedig, rydyn ni'n meddwl ar unwaith bod hyn yn ymwneud â ni ond efallai fod llawer o resymau eraill nad yw’n ddim byd i'w wneud â ni.
Arddulliau rhyngweithio – Mae dwy ran i'r cwestiwn hwn, mae rhan gyntaf y cwestiwn yn ymwneud â sut ydych chi pan fyddwch ar eich gorau. Gan gydnabod bod bywyd yn anodd, ac anaml y byddwn ar ein gorau.
Ar eich diwrnod gorau, beth yw eich steil naturiol pan fyddwch mewn lle da?
Mae'r ail ran yn gydnabyddiaeth o'ch arddull bersonol. Sut ydych chi'n hoffi gweithio a bod?
[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]
Arwyddion rhybudd - Nawr i'r gwrthwyneb, unwaith eto mewn dwy ran. Yn gyntaf, pan fydd pethau'n achosi straen neu'n anodd, beth allai pobl eraill ei sylwi amdanoch chi, beth yw'r arwyddion rhybuddio y gallen nhw eu gweld? Beth y mae arnoch ei angen pan fyddwch yn y cyflwr hwn? Ac yn ail (y rhan anoddaf i'w wneud efallai) beth fyddai'n eich helpu i deimlo llai o straen?
Mae hyn er mwyn eich helpu i sylwi drosoch eich hun ond hefyd i'ch helpu i gefnogi eich gilydd.
Pan fydd pethau'n dechrau achosi straen, rydw i'n edrych fel hyn...
Pan fydd pethau'n dechrau achosi straen, rydw i angen hwn...
[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]
Gallai’r adeg hon fod yn un dda i gymryd seibiant byr, os nad ydych chi wedi gwneud hynny eto.
Pryd bynnag y byddwch yn ailgychwyn, ailgychwynwch gyda chydnabyddiaeth o ddiolchgarwch gan y cyfryngwr.
Y cam nesaf yw gweithio ar ddisgwyliadau. A oes unrhyw beth y mae'n rhaid i ni ei wneud cyn i ni ddechrau ar hynny? Efallai nad ydych chi'n cofio popeth, wrth gwrs, mae hynny'n iawn. Byddwn yn rhannu nodiadau gyda chi fel y gallwch weld cyfraniad eich gilydd ar ôl y sesiwn. A oes unrhyw beth arall i'w ddweud neu ei glywed cyn i ni symud ymlaen?
Gan ddod mewn trefn am yn ôl y tro hwn (a gadael yr agenda am eiliad), hoffwn wahodd pob un ohonoch i rannu'r hyn rydych chi'n ei werthfawrogi neu'n ei edmygu yn y unigolyn arall.
[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]
Efallai y bydd y cyfryngwr yn gallu cyfeirio at enghraifft sydd eisoes wedi dod i'r amlwg, os felly beth arall allwch chi ei wneud i helpu a chefnogi eich gilydd yn y dyfodol?
[Unwaith eto, caiff pob cyfranogwr ei amser i ateb]
Rhowch ddiolch i bawb, gan nodi’r cynnydd, waeth pa mor fach yw'r camau, eglurwch lle mae cymorth pellach ar gael, a chytunwch ar y cyfarfod nesaf os oes angen.
Tynnwch y sbotolau neu symudwch y cadeiriau ymlaen eto.
Gwahoddwch sylw gan unrhyw un neu bawb yn y grŵp.
Cofiwch efallai na fyddwch yn mynd trwy'r holl gamau hyn mewn un tro. Mae hynny'n iawn, Mae'n iawn i gwrdd gynifer gwaith y mae angen i chi i gwrdd.
Rydyn ni’n creu gofod dysgu cadarnhaol sy'n un lle ar daith lawer hirach o ddysgu yn ein holl gyfarfodydd a'n rhyngweithio gyda'n gilydd.
Mae dysgu yn y gofod rhithwir yn baratoad ar gyfer dysgu y tu hwnt i argaeledd y lleoedd hyn.
Mae gwrthdaro cynhyrchiol yn cymryd ymarfer, byddwch yn garedig, daliwch ati i ymarfer...
Broccoli Seed Agreement – Gesturing Towards Decolonial Futures
The Transformative Power of Restorative Justice with Charlotte Calkin
Sut y gallaf i hwyluso’n well?
Pan fyddwch yn hwyluso, dylech ganolbwyntio’n llwyr gan fod yn amyneddgar a phwyllog. Neilltuwch amser ar gyfer myfyrio tawel gyda chymorth er mwyn galluogi gwelliannau parhaus. Meddyliwch am y canlynol …
Cyrraedd – cymerwch ychydig funudau i setlo’n dawel yn yr ystafell ar bwyntiau allweddol
Gwrando – teimlo’n bresennol yn gorfforol, gwrando o’ch corun i’ch sawdl
Sylwi – derbyn yr hyn rydych chi’n sylwi arno a gweithio gyda hynny
Cofnodi – yr union eiriau y mae pobl yn eu defnyddio
Siarad – byr a chryno, defnyddio fi a ni yn lle chi a nhw
Fi a chi – Arfer cyffredin yw defnyddio ‘chi’ generig (yn lle fi) wrth siarad am eich profiadau chi. Rydym yn gwneud hyn i greu rhywfaint o bellter rhyngom ni a’r hyn ddigwyddodd. Os ydych chi’n sylwi ar hyn, gallwch ei gywiro ar y pryd a/neu wneud nodyn fel y gallwch ystyried hyn ymhellach maes o law. Beth oedd yn gwneud i mi deimlo bod angen pellter? Beth y gallaf i ei ddysgu o’r profiad hwnnw a’r profiad o sôn amdano?
Ni a nhw – Rydym ni i gyd yn rhan o un tîm (mawr iawn)! Dylech gynnwys pobl pryd bynnag y gallwch chi, a hwyluso mewn ffyrdd sy’n ehangu criwiau pobl. Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio ‘nhw’. A ydych chi’n awgrymu bod rhywun arall wedi gwneud rhywbeth o’i le (ond nid ni)? A ydych chi’n disgrifio methiant dynol sy’n dod i’n rhan ni i gyd o bryd i’w gilydd? Os felly, gallai fod yn fwy cywir dweud ‘Weithiau rydym ni’n gallu..’ neu ‘Mae pobl yn ei chael hi’n anodd…’?
I wybod mwy, gweler Tribal leadership gan Dave Logan, John King a Halee Fischer-Wright.
Symud – Mae symudiadau corfforol yn hollbwysig i’n gallu i ddysgu a chofio. Defnyddiwch gelf, creadigrwydd, symudiadau syml, sylwi bod gennych chi fysedd traed ac ati pryd bynnag y bydd cyfle’n codi. Yn gymysg â hyn dylech gael lecynnau tawel (cwbl ddistaw weithiau) ar gyfer myfyrio a chadarnhau a gwrando a rhyngweithio gyda’n hunain ac eraill.
Stori – Sut y gallwn ni wybod ein hanesion bywyd ni (rhai unigol a thorfol) heb fod yn gaeth iddynt? Sut y gallwn ni ddefnyddio storïau i feithrin perthnasoedd a chymunedau? Sut y gallwn ni adrodd hanesion gwreiddiol a gafaelgar sydd â’u gwreiddiau yn y byd go iawn?
Am ragor o weledigaeth gweler Telling the story: the heart and soul of successful leadership gan Geoff Mead.
Cyflwyniadau – Peidiwch â defnyddio mwy nag y mae ei angen arnyn nhw. Beth yw’r ffordd orau bosibl o gynnwys pobl wrth ddysgu’r peth arbennig hwn yn y man penodol hwn ar yr adeg benodol hon? Beth yw’r lleiaf y gallaf i ei ddweud i sicrhau bod y bobl hyn yn canfod cymaint ag y gallan nhw ynddyn nhw’u hunain? Beth y mae angen i ni ofyn i ni’n hunain mewn gwirionedd?
Agor a dyfnhau – Sut y medrwch chi agor y gofod i bobl ddeall y mater/problem yn ddyfnach? Crewch amser ar gyfer syniadau, myfyrdodau personol, profiadau a storïau? Yna, chrewch gyfnod creadigol er mwyn cael gafael ar ffyrdd posibl ymlaen a ddatblygu gweithredoedd clir? Gweler Cynnal cyfarfodydd am rhai syniadau.
Mae sgwrs gychwynnol yn golygu bod modd rhannu a pharchu pob safbwynt. Cymerir bod aelodau’r grŵp yn disgwyl cael eu herio ac am glywed rhesymau pobl. Un nod yn y pen draw yw cael pawb i gytuno; hyd yn oed os nad yw pawb wedi’u hargyhoeddi’n gyfangwbl, gallant weld y rhesymu a’r ddadl dros benderfyniad.
Nod arall y sgwrs gychwynnol yw helpu pobl wybod yr hyn y mae eraill yn ei gredu ac i egluro eu syniadau eu hunain. Yn y ffordd hon gallant ddatblygu eu syniadau eu hunain a chefnogi eraill i ddysgu.
Bydd gofyn i bobl sefydlu cyfres o ‘reolau siarad’ fydd yn galluogi’r math yma o siarad ddigwydd yn rhwydd. Efallai y gallai eich grwpiau naill ai ddechrau drwy wneud hyn, hynny yw, gallent ddweud beth mae ‘trafodaeth dda’ yn ei olygu iddynt ac yna ei adolygu a’i addasu ar y diwedd; neu orffen sesiwn drwy gytuno ar gyfres o reolau ar gyfer eich cyfarfod nesaf.
Mae sgwrs gychwynnol yn siarad effeithiol pan fydd…
Rheolau sylfaenol sgwrs gychwynnol
Gosod yr ystafell: Cylch o gadeiriau
Dewiswch bwnc sy’n bwysig i’r rhai sy’n ei drafod bob tro, fel eu bod wedi ymrwymo i’r sgwrs.
Meddyliwch am gwestiwn pwerus neu defnyddio gardiau pwyntiau trafod i ddechrau’r drafodaeth.
Mae sgwrs gychwynnol yn un o nifer o ddulliau a thechnegau sy’n cefnogi arfer da wrth gyd-gynhyrchu. Cewch wybod mwy gan Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru.
Mae sgyrsiau cychwynnol yn seiliedig ar waith ymchwil – rydym yn gwybod o waith ymchwil sut y mae’n digwydd yn ymarferol ac yn gwybod rhwybeth am fecanwaith sut y mae’n gweithio.
Mae pob sgwrs gychwynnol yn arbrawf unigryw – tydy ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd ond gallai fod yn ddiddorol gweld….
Mae’r cyfle i beidio â bod yn rhan o’r sgwrs yn rhan o’r strwythur. Nid oes rheidrwydd ar unrhyw un i siarad. Mae’n iawn dim ond gwrando a pheidio dweud gair.
Sut mae’n gweithio:
> cwestiwn cychwyn:
Dechreuwch eich trafodaeth gyda chwestiwn addas! (gweler y cwestiynau pwerus dros y dudalen)
> (15 munud cyn y diwedd) geiriau olaf:
Diolch i bawb am gymryd rhan, am wrando yn ogystal â siarad!
Dechreuodd Sgyrsiau Cychwynnol mewn ysgolion.
Oracy Cambridge - The Hughes Hall Centre for Effective Spoken Communication
Sut y gallwn ni ragweld gwell gwasanaethau cyhoeddus?
Elfennau hanfodol gwasanaeth cyhoeddus gwell
Sut all y cysyniad o’r normal newydd ein helpu i sicrhau’r dyfodol gorau posibl? Cadw a gollwng
Sut ydw i'n ail-greu cyfarfodydd ar hap mewn byd rhithwir?
Ni allwn roi arian bob tro ond gallwn ni roi un neu ragor o’r saith peth hyn yn ei le:
Amser
Cyswllt cymdeithasol
Gwybodaeth
Sgiliau a Dysgu
Gofod
Gwrthrychau
Beth aral y gallem ei roi?
Sut allwn ni helpu’n gilydd heddiw?
Wedi'i addasu o’r Gwaith sy’n Cysylltu
Gweithiwch fel tîm i fyfyrio a rhannu eich meddyliau, tynnu llun a thrafod...
Wedi'u hddasu o https://collaboratecic.com/a-whole-new-world-public-service-in-the-time-of-coronavirus-e9510d4b356a
Caniatáu i weision cyhoeddus fod yn ddynol — Canolbwyntio sylw gweision cyhoeddus ar feithrin perthynas â'r rhai y maent yn eu gwasanaethu — i ddeall eu cryfderau a'u hanghenion, ac ymateb yn briodol i beth bynnag yw'r rheini. Mae hyn yn golygu rhyddhau gweision cyhoeddus (a'r rhai y maent yn eu gwasanaethu) o ymdrechion i reoli eu gwaith o lefel uwch, ac yn hytrach ganolbwyntio ar feithrin ymddiriedaeth ar bob lefel.
Creu dysgu parhaus — Mewn sefyllfaoedd o ansicrwydd, ni ydym yn gwybod beth yw'r peth 'cywir' i'w wneud. Nid oes llawlyfr i weithredu ohono. Felly mae'n rhaid i bawb ddysgu, wrth fynd yn eu blaenau. Gwaith rheolwyr yw creu amgylcheddau ac arferion dysgu sy’n egino; 'dysgu trwy wneud'.
Meithrin systemau iach — Systemau iach yw rhai lle mae gwahanol actorion yn gallu cydlynu a chydweithio'n effeithiol. Mae systemau iach yn cynhyrchu canlyniadau da. Fe'u nodweddir gan ymddiriedaeth, didwylledd a gonestrwydd. Gwaith arweinwyr (ar bob lefel) yw creu a meithrin systemau iach. Ansawdd y cysylltiadau yn y system sy'n galluogi'r systemau hynny i ymateb yn effeithiol mewn argyfwng. Os ydych wedi bod yn buddsoddi yn eich cysylltiadau yn y gorffennol, byddwch yn awr yn gweld y manteision. Os nad ydych wedi buddsoddi o'r blaen mewn meithrin perthynas rhwng unigolion o fewn y system, mae nawr yn amser gwych i ddechrau.
Mae systemau dysgu dynol hefyd yn ddull y gellir ei archwilio, ei ddatblygu a'i gymhwyso. Gweler Systemau Dysgu Dynol
Dyma’r normal a oedd yn bodoli cyn yr argyfwng presennol. Cyn bo hir bydd yn anodd cofio manylion y normal hwn. Bydd pethau rydych chi’n gweld eu heisiau o’r cyfnod hwn – a bydd pethau nad oeddech chi’n eu hoffi beth bynnag. Mae’n bosibl hefyd y byddwch chi wedi colli pobl.
Pan fydd cyfle gennych, gwnewch nodyn o’r agweddau ar y normal hwn yr hoffech chi gefnu arnyn nhw – a’r agweddau y byddwch chi’n gweld eu heisiau, os nad ydyn ni’n gallu dychwelyd atyn nhw.
Wrth i’ch argyfwng presennol ddechrau, yn bennaf byddwch chi’n ymdrin â’r agweddau ymarferol ar ymateb i argyfwng. Mae’n bosibl y byddwch chi’n ymdrin ag emosiynau fel poen neu sioc – neu mae’n bosibl y bydd hyn yn dod yn hwyrach – wedi’i oedi gan yr angen i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol ar y pryd. Bydd adegau (waeth pa mor fyr ydyn nhw) pan fydd gennych chi’r amser i sylwi ar yr hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas. Yn yr adegau hyn gofynnwch gwestiynau fel:
Beth sy’n digwydd ar hyn o bryd?
Beth ydw i’n ddiolchgar yn ei gylch?
Sut mae cysylltiadau a pherthnasau wedi cryfhau (yn annisgwyl)?
A ydyn ni’n arloesi mewn ffyrdd a allai fod yn ddefnyddiol nes ymlaen?
Dyma lle y byddwch chi pan fydd yr argyfwng hwn wedi dod i ben. Efallai y byddwch chi’n wynebu argyfwng newydd – neu os ydych chi’n lwcus, efallai y byddwch chi’n cael cyfnod cymharol sefydlog. O hyn ymlaen, dim ond sicrwydd cyfyngedig a fydd gennych chi ynghylch y normal hwn. Ond gallwch chi wneud dewisiadau a allai ddylanwadu ar natur y normal newydd hwn.
Gwnewch restr o’r agweddau ar y normal dros dro yr hoffech chi eu cadw a’r rhai yr hoffech chi gefnu arnyn nhw. (Dylech wneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod y normal dros dro – gan na allwch chi fod yn sicr pan fydd y normal newydd yn dechrau. Diweddarwch eich rhestr cadw a gollwng yn ôl yr angen.)
Cadw = agweddau ar y normal dros dro yr hoffwn i eu cadw
Gollwng = agweddau ar y normal dros dro yr hoffwn i gefnu arnyn nhw
Gweithredwch cyn gynted â phosibl – bydd hynny’n eich helpu i gofio a chadw’r pethau da.
Cymerwch gamau a fydd yn eich helpu i anghofio’r pethau rydych chi am gefnu arnyn nhw.
Gofalwch amdanoch chi eich hun, pobl eraill a’r natur o’ch cwmpas!
Beth arall y mae angen i ni ei ystyried?
Nid oes angen ofni newid – Rydyn ni a’n systemau yn newid o hyd ac mae’n bosibl mwynhau dysgu sut i newid (datblygu) mewn ffordd dda trwy ymarfer ac ystyried sut mae’r model cymdeithasol yn gallu helpu.
Ymddiried yn ein syniadau blaenorol – Os ydym wedi rhoi cynnig ar rywbeth o’r blaen nid yw hyn yn rheswm dros roi’r gorau iddi ond yn hytrach mae’n ffynhonnell dda iawn o ddata y gallwn eu defnyddio er mwyn rhoi cynnig arall arni drwy greu prototeip gwahanol (a allai fod yn well).
Bod yn agored i addasu’r hen syniadau hyn yn wyneb tystiolaeth newydd – byddwch yn greadigol ac yn flaengar!
Cymerwch gamau sy’n creu effeithiau ar unwaith – cynlluniwch eich prototeip mewn modd sy’n golygu y bydd yn gwneud gwahaniaeth o’r dechrau’n deg.
Gweler rhagor am greu prototeipiau yma.
Mae'n wych darganfod y gallwn ddefnyddio technoleg i leihau ein hôl troed carbon, anadlu aer glanach a lleihau straen cymudwyr, ond mae'n parhau'n heriol i ailadeiladu holl elfennau gwaith iach sy'n seiliedig ar swyddfeydd ar-lein.
Un o'r heriau mwyaf yw sut i ail-greu'r cyfarfodydd anffurfiol, ar hap hynny a all ein gwneud mor effeithiol pan fyddwn yn gweithio mewn man a rennir.
Mae cadw mewn cysylltiad â'ch cydweithwyr o wahanol gefndiroedd, swyddi a sefydliadau yn helpu eich gwaith a'ch iechyd. Gall cadw mewn cysylltiad ag eraill eich helpu i deimlo'n rhan o 'Dîm Cymru' a gall sgyrsiau anffurfiol byr (yn enwedig gyda phobl sy'n gweithio ar wahanol bynciau) wella eich effeithiolrwydd. Nid yw'n hawdd ei wneud ond cofiwch fod angen i bob un ohonom fod yn greadigol a gofyn am gyfraniadau bach ond pendant. Does dim angen esgus arnoch i wneud peth iach – boed hynny'n wahodd, derbyn neu wrthod tan yr wythnos/mis nesaf oherwydd eich bod yn brysur ar y pryd!
Dyma'r hyn y mae rhai ohonom wedi bod yn ei geisio. Beth am roi cynnig ar un drosoch eich hun?
Ein nod yw ymgorffori a galluogi ymatebion tyner i'n sefyllfa enbyd.
Gweler hefyd Nodau Datblygu Mewnol
Rydym yn troi'n ôl dro ar ôl tro at dair egwyddor:
Mae pedwar cwestiwn yn arwain ein gwaith:
Rydym wedi ymrwymo i ddysgu sut i ymgorffori ymateb tyner i'n sefyllfa enbyd. Ychydig iawn o syniad sydd gennym o sut i wneud hyn ond mae gan bawb rywbeth i'w gyfrannu.
Dyma sut rydym yn dewis treulio ein hamser sy'n weddill, beth bynnag fydd yn digwydd.
Gallwch gael gwybod mwy am y Fforwm Addasu Dwfn yma neu ddarllen storïau am yr hyn rydym yn ei ddysgu yma.
Beth yw’r proffesiynoldeb newydd?
Sut y gallwn ni ymateb i’r her arweinyddiaeth?
Arwain ymyriadau strategol llwyddiannus yn lleol
Fframwaith cymhwysedd sylfaenol ar gyfer arweinyddiaeth
Talu sylw i'n sylw - cynllun tri phwynt
Ymgorffori, myfyrio a synhwyro presenoldeb
Mae arweinyddiaeth yn digwydd ar bobl lefel ac ym mhob man. Mae arweinwyr da’n annog arweinyddiaeth sy’n gwneud y canlynol:
Mae gennym ddamcaniaeth newid syml y gellir ei chrynhoi fel newid trwy ymarfer.
Mae ymarfer yn golygu rhoi cynnig ar bethau newydd, myfyrio ar yr hyn sy’n digwydd a bod yn barod i ddysgu.
Mae rhoi cynnig ar ymddygiadau newydd yn newid ein defodau
Mae newid ein defodau yn newid ein perthynas ag eraill.
Mae newid ein perthynas ag eraill yn newid ein diwylliant.
Mae dysgu drwy ymarfer yn broses barhaus.
Bydd edrych ar bron unrhyw agwedd ar gyflwr y byd yn ddigon i ddangos bod angen newid, nid yn unig o ran beth rydym yn ei wneud ond sut rydym yn gwneud hynny. Felly, mae galw am ‘broffesiynoldeb newydd’, sy’n addas ar gyfer ein hoes ni.
(Yn seiliedig ar waith Etienne and Beverly Wenger-Trayner.)
Y cymwyseddau allweddol yw;
Caiff y cymwyseddau eu disgrifio’n fanylach yn y fframwaith cymwyseddau sylfaenol
Yn ystod pandemig Covid-19 rydym wedi bod yn dysgu bod ymyriadau’n bwysig.
Pan gânt eu croesawu mae cymryd seibiant, rhoi sylw i rywbeth arall a chymryd amser i ffwrdd o’r dasg neu’r sgrin yn gallu ein helpu i deimlo’n well a meddwl yn fwy clir.
Mae ymarfer proffesiynoldeb newydd yn golygu rhoi sylw i ymyriadau, gan wneud beth bynnag sydd angen ei wneud yn y foment honno a dychwelyd i’r cyfarfod â meddwl clir.
Felly, os bydd plant yn tarfu ar ein cyfarfod | Mae’r byd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cenedlaethau’r dyfodol | Pan fyddwn yn dychwelyd at waith y cyfarfod, byddwn yn gofyn i’n hunain; Sut ydyn ni’n cynnwys cenedlaethau’r dyfodol yn y gwaith hwn? |
Neu, os bydd anifeiliaid anwes, pryfed neu greaduriaid eraill yn tarfu ar ein cyfarfod | Mae’r byd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd byd natur | Pan fyddwn yn dychwelyd at waith y cyfarfod, byddwn yn gofyn i’n hunain; Sut y bydd y gwaith hwn yn cynnal ac yn gwella natur? |
Ac os bydd perthnasau hŷn yn tarfu ar ein cyfarfod | Mae'r byd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd y genhedlaeth hŷn | Pan fyddwn yn dychwelyd at waith y cyfarfod, byddwn yn gofyn i’n hunain; A ydyn ni'n dod yn hynafiaid da i bawb? |
Gweler; A ydyn ni'n gweithio'n rhy galed? neu’r graff isod…
Wedi'i addasu o Williams (1994) Pressure Performance Curve, atgynhyrchir y diagram hwn gyda chaniatâd GSK Training o Resilience for Change Management | Reuters Events | Pharma
Diolch Pan fydd rhywun yn diolch ichi, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhannu hynny â’r bobl eraill a fu’n rhan o’r gwaith.
Memo Pan fyddwch yn cael gohebiaeth ysgrifenedig, cofiwch wneud mwy na’i darllen a/neu ei hanfon drwy’r e-bost; treuliwch amser yn trafod y prif agweddau gyda’ch tîm gan roi adborth ar rai pwyntiau allweddol
Adborth Ar ddiwedd y diwrnod, y digwyddiad neu’r cyfarfod; cofiwch ofyn am adborth byr am yr hyn a wnaethoch chi. Gofynnwch am un peth a wnaethoch a oedd o gymorth ac un nad oedd mor ddefnyddiol. Derbyniwch yr adborth a gewch yn gwrtais a threuliwch amser yn ystyried sut i wella.
Sefyllfa: Cyn gynted â phosibl, dewch â phobl at ei gilydd sy’n debygol o fod yn rhan o’r penderfyniad, ac/neu y bydd y penderfyniad yn cael effaith arnynt; dywedwch wrthynt yn onest beth yw hyd a lled pethau; gofynnwch am syniadau; ceisiwch ddatrys eich problemau chi a’u rhai hwythau, gyda’ch gilydd.
Opsiynau: Cyn gynted â bod gennych syniad bras o sut yr hoffech fynd i’r afael â phethau, trefnwch i gyfarfod eto i drafod eich opsiynau drafft; gofynnwch am effaith bosibl pob un ohonynt; gofynnwch pa newidiadau fyddai’n lliniaru’r agweddau negyddol ac yn cynyddu agweddau positif pob opsiwn.
Penderfyniad: Cynhaliwch gyfarfod eto i egluro'r hyn a benderfynwyd gennych a beth fydd yn digwydd nesaf. Parhewch i siarad, ystyried a gwella’r cynllun wrth fynd ymlaen.
Yn ystod 2021 - 2022 gwnaeth is-grŵp ‘Cynnwys’ Fforwm Rhanddeiliad Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol gwrdd i feddwl am ein harferion presennol. Ystyriwyd sut gallwn ni gryfhau a gwella‘r ffordd rydyn ni’n deall ac yn defnyddio ‘cynnwys’ o fewn y pum ffordd o weithio yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Dyma beth rydym yn dechrau ei ddysgu…
Rydym yn cydnabod bod ein hen ffyrdd yn echdynnol.
Byddem arfer ceisio cwmpasu neu berchnogi popeth, er enghraifft cynlluniau peilot a chyflwyno rhaglenni. Erbyn hyn rydym yn dysgu sut i roi ein hamser, cyfeillgarwch a pharch i bobl a lleoedd. Defnyddiwch ddulliau prototeipio, cynllunio eginol, neu ysbrydoli gan weithio mewn ffyrdd penodol sy’n addas ar gyfer lleoedd a phobl benodol.
Wrth roi’r Ddeddf ar waith, rydym yn argymell defnyddio dull creadigol, caredig ac ymarferol sy’n cynnwys yr elfennau allweddol canlynol:
“Ymholi yw ymarfer arweinyddiaeth. Nid tybio yw ein gwaith ond bod yn barod i ddysgu. Gofyn beth y mae ei angen i ffynnu ac i alluogi pobl eraill i ffynnu.”
Charlotte Von Bullow (Sylfaenydd Crossfields Institute) 2019
Mae hi wedi cymryd dipyn o amser i ddod i wraidd y mater, ond o’r diwedd rydym wedi llunio fframwaith cymhwysedd a allai fod yn sail i bob un arall. Rydym wedi nodi pedair sgìl i’w datblygu:
Arbrofwch gydag i ba raddau rydych chi angen pob un o’r elfennau hyn: rhowch gynnig ar wneud mwy o 1 a 2 (yn enwedig i dorri patrwm blaenorol; peidiwch â neidio i weithredu heb gymryd saib a gwrando). Sut y gallwch chi gydbwyso cymryd saib/gwrando/cwestiynau gyda gweithredu? Beth sy’n digwydd mewn argyfwng?
Mae ein bwriad yn elfen allweddol – ceisiwch ddeall pethau’n well; hynny yw ni ein hunain, pobl eraill, bodau dynol, natur, y sefydliad, y dirwedd wleidyddol, ac ati. Drwy ddealltwriaeth gallwn ddefnyddio ein sylw i wneud penderfyniadau gwell a chymryd camau mwy gweithredol.
Datblygwyd o: Bülow, C. v. (2019) The Practice of Attention in the Workplace – Phenomenological Accounts of Lived Experience.
Rydyn ni’n amharod i roi sylw - ac o fewn yr economi sylw sy’n bodoli, mae hyn yn arwain at gamreoli’r hunan.
Mae angen sicrhau bod y gweithle yn amgylchedd sy'n rhoi amser a lle ar gyfer gwaith mewnol, profiadau llif, datblygu meistrolaeth a chymdeithasu hwyliog, hynny yw sicrhau nad yw ein bodolaeth foesol a chymdeithasol byth yn cael ei rhannu rhwng ein meddyliau a'n teimladau, ein meddwl a'n corff.
Mae rhaniadau meddyliol o’r fath yn arwain at salwch. Mae teimladau melancolaidd, straen ac iselder yn chwarae rhan bwysig yn sut rydym yn cyfranogi yn y realiti economaidd-gymdeithasol modern. Ac eto, o ystyried pwysau sydd arnom, yr ymosodiad digidol dyddiol a’r frwydr rydym yn ei cholli yn erbyn y dyfeisiau digidol sy'n tynnu ein sylw, mae perygl iddo ddod yn gyflwr o normalrwydd i ni.
Yn fyd-eang, mae’r diffyg parch at ymarfer rheoli fel celfyddyd a chrefft sy'n gofyn am feistrolaeth, a'r diffyg doethineb ymarferol o ganlyniad mewn ymddygiad ymarferwyr rheoli, wedi cyfrannu at rai o'r digwyddiadau mwyaf trychinebus yn ein hanes amgylcheddol, gwleidyddol ac ariannol diweddar.
Efallai bod ein amharodrwydd i fynd i'r afael â'r broblem hon, neu ddatblygu arferion sylw bwriadol, wedi ei achosi gan y diffyg arweiniad ar sut i ddechrau'r daith honno.
Rydym yn ceisio dechrau sgwrs ymhlith cydweithwyr a gwahodd datblygiad cymunedau ymarfer. Rydym yn tybio y gall yr ymarfer bwriadol o roi sylw yn y gweithle ddeillio o fenter unigolyn, un tîm, grŵp ffocws neu ymchwiliad cydweithredol, sgyrsiau rhwng cydweithwyr, cadw dyddiadur, neu roi cynnig arni a bod yn agored ynglŷn â hynny.
Rydym yn gwahodd pob unigolyn i gymryd cyfrifoldeb am ei lwybr hunanddatblygiad ei hun, yn ogystal â’r gwahaniaeth cadarnhaol y gall pob unigolyn sy'n batrwm ymddwyn dewr ac ymwybodol ei wneud yn y gweithle. Nid yw sefyll i fyny ac eirioli am arferion sylw bwriadol yn y gweithle cyffredin yn beth hawdd i'w wneud ond mae'n hanfodol dilyn y trywydd hwn beth bynnag ar hyn o bryd.
Mae'r tri phwynt allweddol a restrir isod yn cysylltu sylw â thair elfen sy'n gofyn am ymwybyddiaeth gyson, craffu parhaus ac ymroddiad parhaus. Os ydym am fod yn batrymau ymddwyn ymwybodol ac yn arweinwyr llwyddiannus wrth drawsnewid gweithle heddiw, gallem ddechrau yma:
Gellir deall arweinyddiaeth, yn y cyd-destun hwn, fel ymarfer:
Mae'r holl bethau sy'n dal ein sylw (e-bost, cyfryngau cymdeithasol, terfynau amser ac ati) mewn perygl o danseilio ein gallu naturiol i ddirnad a rheoli sut rydym yn cymryd rhan mewn bywyd bob dydd. Mae'n ddyletswydd moesol arnom i ystyried effaith ein hymddygiad wrth dalu sylw. Mae angen i ni ddatblygu agwedd foesegol o gydsyniad yn ein hymarfer o roi sylw ac mae hyn yn gofyn i ni greu gofodau yn ystod y dydd i ofyn - pwy allwn i fod yn eu brifo neu eu helpu drwy roi sylw yn y ffordd hwn neu yn y ffordd arall? Mae'r pŵer sydd gennym trwy fod â'r gallu i roi sylw ac ymwybyddiaeth ar yr un pryd yn aruthrol - mae'n dod gyda dyletswydd i ddwyn ein hunain i gyfrif ym mhob sefyllfa.
Os oes angen ymrwymiad i hunanddatblygiad mewn ymarfer rheoli, yna mae gennym waith i'w wneud i greu amgylcheddau lle nad yw arfer o'r fath yn cael ei danseilio'n gyson. Mae angen i ni neilltuo amser gwirioneddol i archwilio ein hunain yn fewnol ac mae angen i ni greu amgylchedd lle gallwn ni ddiosg haenau yn ddiogel. Heb graffu ar ein bwriadau fel hyn, allwn ni ddim bod yn siŵr bod cyfiawnhad moesol i'n penderfyniadau a'n gweithredoedd.
Os nad ydym yn ymgymryd â hunan-archwiliad parhaus a thrylwyr, rydym mewn perygl o adael i ofnau ac arferion meddwl anymwybodol ddal ein sylw. Os yw’r ymddygiad yn awtomatig, gall sylw bwriadol helpu i’w datgelu a mynd i’r afael â nhw. Drwy nodi a chydnabod ofnau cudd a rhoi sylw i'r naratifau sy'n llywio rhagfarn a rhagdybiaethau, gallwn eu herio a'u trawsnewid. Mae hyn yn golygu ymrwymiad parhaus i ymarfer hunanfyfyriol. Dyma'r llwybr at hunan-wybodaeth.
Trwy wahodd cydweithwyr ar daith drwy ganolbwyntio ar y pethau allweddol hyn, gobeithiwn gymryd cam tuag at greu diwylliant o uniondeb moesol ac ymarfer sylw moesegol yn ein gweithle.
Sut y gallwch chi wneud lle yn eich patrymau gwaith ar gyfer y tri ymarfer hwn?
Mae modd defnyddio’r sgiliau uchod yn ymarferol drwy ymestyn ein sesiynau trosglwyddo a chyfarfodydd tîm arferol i gynnwys tair elfen allweddol (yn hytrach nag un?):
Llesiant cydweithiwr, claf neu gwsmer (prosiect neu le), gofynnwch: Sut ydych chi?
Ein llesiant fel tîm o unigolion: Sut ydyn ni?
Llesiant ein sefydliad (neu’r system ehangach): Sut ydyn ni?
A oes angen i ni ddarparu unrhyw adborth a sut y byddwn yn cyfleu hyn?
Mae pob un ohonom fel unigolion, pob grŵp dynol a system naturiol yn ddynamig. Rydym yn newid ac yn datblygu’n gyson, yn yr un modd â’r amgylchedd o’n cwmpas.
Mae emosiynau’n chwarae rhan bwysig yn ein gallu i wneud penderfyniadau, rheoli ein hegni mewnol a chreu cysylltiadau dyfnach â phobl eraill; a natur.
Mae o leiaf dair ffordd wahanol i ni ymateb i’n hemosiynau mewnol ein hunain pan fyddant yn digwydd:
Gall bob un o’r tair ffordd o ymateb i emosiwn fod yn briodol mewn amgylchiadau gwahanol.
Yn nes ymlaen byddwn yn edrych ar beth ddigwyddodd a’n teimladau. Gallwn gymryd saib i ystyried y teimladau newydd sy’n codi yn awr. Mae hyn yn gallu ein helpu i ddeall yn well beth a ddigwyddodd mewn gwirionedd a sut roedd ein hemosiynau ac emosiynau pobl eraill wedi chwarae rhan yn hynny.
Beth yw’r amodau lle rydym yn teimlo’n ddiogel i fynegi ein hemosiynau a sut mae modd hybu’r amodau hyn?
Sut y gallwn ni ddysgu sut i fynegi ein hemosiynau’n gliriach?
Sut y gallwn ni greu mwy o ofod/gofod gwell i fyfyrio ac i hunanfyfyrio?
Adborth hyd yma...
“Rydw wir yn hoffi’r Sgiliau allweddol a’r Holi am Lesiant. Y bwriad sydd y tu ôl iddyn nhw sy’n allweddol – deall ein hunain, pobl eraill, y sefydliad, y dirwedd wleidyddol ac ati yn well. Drwy ddeall, gallwn ni wneud penderfyniadau gwell.”
“Mae’n ymddangos mor syml ond, ar yr un pryd, mae hi mor bwysig rhoi gwybod i bobl bod ein teimladau a’r hyn rydym yn ei feddwl yn cyfrannu at bopeth a wnawn.”
“Rwy’n amau bod y ffordd yr ydym yn ymateb yn dibynnu mwy ar ba mor ‘ddiogel’ rydyn ni’n teimlo a'r mwyaf diogel rydyn ni’n teimlo y mwyaf tebygol ydyn ni o fynegi, hynny yw os ydyn ni gyda rhywun sy’n gwrando’n dda, rydyn ni’n fwy tebygol o fynegi’r emosiwn na'i atal neu ei ddangos.”
Sut y gallwn ni greu mwy o amser wrth drosglwyddo, wrth holi am lesiant ac mewn cyfarfodydd tîm er mwyn gallu cynnal y sgyrsiau ehangach a dyfnach hyn?
Sut allwn ni wahodd pobl i fanteisio ar y cyfle i roi cynnig arni/dysgu drwy wneud?
Mae llawer o hyn yn ymwneud â dysgu drwy wneud ond dyma dri maes y gallem fod eisiau eu hystyried drwy hyfforddiant ffurfiol:
Mae ymchwil arloesol yn dechrau dangos bod y tri maes arbenigedd hyn, drwy eu defnyddio gyda'i gilydd, yn gallu gwella ein cynhyrchiant a’n heffeithiolrwydd mewn amgylcheddau cymhleth a heriol.
Gweler hefyd cyfleoedd dysgu rhagor isod.
Mae ymarfer myfyrio parhaus, boed drwy ioga ‘eistedd’, symudiad meddylgar neu ymgolli ym myd natur, yn ein galluogi i ddatgelu sefyllfa o lonyddwch ac yn gwella ein hymwybyddiaeth. Mae’n gwella ein gallu i sylwi ar syniadau, emosiynau, teimladau fel ffenomena sy’n pasio heb fachu arnynt. Wrth ymarfer ‘eistedd’ gyda theimlad o garedigrwydd cariadus tuag atom ein hunain, mae’n gallu ein galluogi i ‘fod’ gyda’n hunain, fel unigolion a’r sefyllfa ehangach rydym ynddi – heb feirniadaeth. Mae’n ein hangori mewn cyflwr dyfnach o dawelwch a allai ganiatáu i ni wneud penderfyniadau gwell. Mae’n gallu gwneud i ni deimlo cysylltiad dyfnach â’r byd ehangach neu deimlo’n dawel ar wahân i bryderon bydol.
Pan fyddwn yn profi ‘eistedd’ rydym yn dysgu profi cyflwr myfyriol o sylw effro, derbyngarwch, gonestrwydd anfeirniadol tuag yr hyn sy’n digwydd, yma, nawr.
Troi am i mewn: mae myfyrdod yn rhoi cyfle i ddatgelu’r gofod ymwybyddiaeth ac arsylwi ar ein cyflyrau mewnol (corfforol, meddyliol, emosiynol) a sut mae'r rhain yn newid o funud i funud.
Mae ymgorffori a synhwyro presenoldeb yn fyfyrio-ar-waith. Mae’n cyfeirio at ein gallu i fod yn gwbl bresennol gyda rhywun, pobl neu sefyllfa: ‘bod gyda’, dod â’n hymwybyddiaeth lawn i fod yn bresennol yn y foment hon a chydnabod y cysylltiadau amhersonol dwfn rhyngom.
Mae’n golygu ein bod yn rhoi sylw i’r unigolyn arall (neu bobl neu natur) mewn ffyrdd sy’n cydnabod ac yn creu cyfleoedd ar gyfer gwella ar y cyd. Mae ‘bod gyda’ yn ein galluogi i gyrraedd cyflwr dyfnach o ymwybyddiaeth lle gallwn ddod yn fwy ymwybodol o’n teimladau ein hunain a theimladau pobl eraill; gallwn sylwi sut mae pethau’n newid a chymryd rhan mewn sgyrsiau cynhyrchiol lle rydym yn cefnogi ein gilydd.
Troi am allan: mae ymgorffori a synhwyro presenoldeb yn cynnig y cyfle i adeiladu cysylltiad dyfnach gyda phobl eraill.
Mae ‘eistedd’ a ‘bod gyda’ yn ein gwahodd i sylwi gyda thosturi. Wrth i ni ddysgu i ddefnyddio’r sgiliau hyn mewn bywyd bob dydd, gallwn ddechrau trawsnewid perthnasoedd.
Efallai mai'r ffordd orau o gyflawni hyn yw trwy ddefnyddio cymysgedd o arferion myfyrio byr a hir ar y cyd â dysgu am wybodaeth ymddygiadol a chymryd rhan mewn arferion cydfyfyrio neu ymchwiliad gwerthfawrogol.
P’un ai a ydym yn ymarfer myfyrdod eistedd ai peidio, gallwn ddefnyddio myfyrio-ar-waith drwy ymgorffori cyfnodau byr o ymwybyddiaeth ofalgar ynghyd â datblygu ymwybyddiaeth o sut rydym yn defnyddio ein sylw wrth weithio gyda phobl eraill.
Sut y gallwn ni ddatblygu’r sgiliau hyn gyda’n gilydd a chynyddu ein synnwyr o lif?
Weithiau mae sefyllfaoedd ein bywyd neu ffactorau allanol o’n cwmpas yn gallu effeithio arnom yn fawr. Gallwn deimlo ein hunain:
Pan fydd y patrymau hyn yn dod i’r amlwg, y ffordd ymlaen yw dod yn fwy presennol ond yn raddol. Yn gyntaf, mae angen i ni sylwi. (Efallai bydd pobl eraill yn rhoi adborth i ni os na fyddwn yn sylwi ein hunain?) Ar ôl i ni sylwi, mae angen i ni fod yn dosturiol â ni’n hunain, peidio â neidio i fyfyrdod enfawr, ond cymryd camau bach i fod yn bresennol gan fod yn dosturiol â ni’n hunain, derbyn ein hemosiynau anodd, ac adfywio ein hunain yn dyner drwy anadlu, bod yn bresennol, mynd am dro ym myd natur, gwrando ar gerddoriaeth... efallai dod o hyd i ffrind i fynegi iddynt... cysgu! Rhoi cynnig arall arni mewn ffordd wahanol.
Rydym yn ddynamig. Bydd pethau bob amser yn mynd i fyny ac i lawr, i mewn ac allan. Wrth i ni ddysgu sylwi a derbyn y rhain yn gyflymach, wrth iddynt godi, bydd siâp y newidiadau hyn a pha mor aml y maent yn digwydd yn newid hefyd.
Cymerwch gamau bach ac ymarfer bod yn bresennol, yn sylwgar, eistedd. Mae’r holl weithgareddau hyn yn trawsnewid drwy ymarfer, gan ganiatáu i ni weithredu a bod gydag eraill ac yn ein sefydliadau mewn ffyrdd sy’n caniatáu i ni ffynnu.
Sut y gallwn ni annog ein hunain ac eraill i sylwi ar ein cyflyrau o fod yn rhagweithiol a’u rheoli?
Sut y gallwn ni ddysgu am ein hanes ar y cyd er mwyn i hyn fod yn sail i’n gweithredu?
Fe’ch gwahoddir i roi cynnig ar yr arferion sydd o ddiddordeb i chi – defnyddiwch nhw mewn gwahanol sefyllfaoedd, myfyriwch ar yr hyn a fydd yn digwydd a dysgwch ragor. Mae’n bwysig eich bod yn dewis yr arferion sy’n teimlo’n iawn i chi. Rydym yn argymell y dylech weithio ar un i dair arfer ar unrhyw adeg. Os oes gennych gwestiynau neu adborth ynglŷn â’r arferion, cysylltwch â Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru
Hyfforddi ar y cyd neu barau ystyriol
Mae dysgu gyda'n gilydd yn hollbwysig. Dewiswch y gweithgaredd sy'n orau i chi...
Ymarfer bob bore? Ymunwch â ni unwaith yr wythnos neu bob dydd)
Dim ond angen yr wybodaeth ddiweddarof? Ymunwch â sesiwn rhyngweithiol un-awr ar-lein
Eisiau atgoffa’ch hunan am systemau? - Cwrs byr dull systemau
Edrych am rywbeth dyfnach trwy hyfforddiant am ddim? Ymunwch ag u-lab gan MIT
Dim ond angen ffrind? Rhowch gynnig ar hyfforddi ar y cyd.
Barod am sesiwn un-awr bob mis? Dewiswch cymuned ymarfer
Gweithion mewn lle penodol? Trïwch cyngor gan ymarfer y bobl
Eisiau creu tîm newid yn eich sefydliad eich hunan? Ymunwch â’r prosiect ensymau
Gweler wefan Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfoldol am ffynonellau eraill o ddysgu a datblygu
Mae hyfforddi ar y cyd yn ffordd wych o ystyried a dysgu gyda’ch gilydd. Dyma sut mae rhai ohonom yn mynd ati.
Dewiswch rywun rydych chi’n ei adnabod, yr hoffech dreulio rhywfaint o amser ystyriol gydag ef/hi. Gofynnwch sut mae ef/hi (trafodwch) a howchi a fyddai ganddo/ganddi ddiddordeb mewn rhannu rhywfaint o le i feddwl. Yn y lle cyntaf, dim ond gofyn i rywun gytuno i gyfarfod cyntaf ydych chi, er mwyn i chi weld sut y gallai pethau fynd. Efallai y bydd yn gweithio, efallai ddim. Os nad yw’n gweithio, o leiaf byddwch wedi cael paned a sgwrs. Efallai mai dim ond rhywfaint o fân newidiadau y mae eu hangen er mwyn i bethau weithio’n well y tro nesaf...
Cwrdd i roi cynnig arni. Fe wnaethom hyn drwy neilltuo hanner yr amser i bob un ohonom (hynny yw, 30 munud yr un) ac ychydig funudau i gytuno ar y camau nesaf. Fe wnaethom gyfarfod wyneb yn wyneb a hefyd yn rhithiol. Defnyddiodd pob unigolyn ei amser i ofyn cwestiwn allweddol iddo’i hun (ac ateb drosto’i hun) (er enghraifft Beth ydw i eisiau ei gyflawni? Beth yw’r her fwyaf nawr?) tra bo’r unigolyn arall yn gwrando, yn cymryd diddordeb, yn gofyn cwestiynau da, yn gweld cysylltiadau ac yn ceisio peidio â thorri ar draws gormod. Ar y diwedd, roeddem yn teimlo’n well felly rydym yn cytuno i gwrdd eto.
Gallech ofyn cwestiynau fel y rhain: dywedwch wrthyf am rywbeth a aeth yn dda yr wythnos hon; a allwch chi ddefnyddio unrhyw wersi o’r fan honno mewn lleoliadau eraill? Dywedwch wrthyf am rywbeth a aeth yn wael/yn dda; beth allech chi roi cynnig arno’n wahanol y tro nesaf? Beth os oedd/nad oedd hynny’n wir? Pe gallech chi newid un peth, beth fyddai hynny a pham?
Dim ond yn rhannol lwyddiannus oedd ein cynnig cyntaf. Cawsom ymrwymiad a chawsom gyfarfod defnyddiol iawn ond wedyn ni wnaethom lwyddo i ddod at ein gilydd yn rheolaidd am ychydig fisoedd. Felly gwnaethom roi cynnig arall arni; gan ddefnyddio Outlook i bennu cyfarfod wythnosol awr a hanner yn rheolaidd yn ein dyddiaduron. Dydyn ni ddim yn defnyddio’r holl amser hwnnw bob tro (ond fel arfer tua 30 munud yr un). Mae neilltuo 90 munud yn ein dyddiaduron yn sicrhau ein bod yn cael amser ar gyfer hunanystyried yn ogystal â’r hyfforddiant ar y cyd.
Rydym yn gwneud yn siŵr bod y ddau ohonom yn cael yr amser y mae ei angen arnom i siarad am un broblem/her/mater ac rydym yn canolbwyntio’r cwestiynau ar fod yn agored, yn galonogol, yn ystyriol ac yn dosturiol. Rydym yn canolbwyntio ar y pedwar egni – corfforol, emosiynol, meddyliol ac ysbrydol.
Rydym yn cynnal rhai o’r cyfarfodydd dros y ffôn a Teams ac weithiau rydym yn gallu bod yn yr un lleoliad. Mae cyfarfodydd rhithwir wedi gweithio'n iawn ar yr amod bod y ddau ohonom yn llonydd (gyda phaned o de yn ddelfrydol). Nid yw symud neu fod wrthi’n siopa, yn syniad os ydych chi am wrando’n dda. Os ydych chi ar y ffôn symudol, gwnewch yn siŵr bod cryfder eich signal yn dda cyn i chi ddechrau, fel nad ydych chi’n colli eich gilydd ar adeg anodd.
Rydym wedi cynnal cyfarfodydd wythnosol rheolaidd a dim ond un neu ddau o’r sesiynau hyn rydym wedi’u colli (oherwydd gwyliau’n bennaf) dros y misoedd diwethaf. Mae’n bendant yn gwella ein perfformiad yn ystod gweddill yr wythnos. Mae’n wych pan fydd y ddau eisiau dysgu gwneud yn well (ar unrhyw agwedd ar eu gwaith).
Rydym yn argymell eich bod yn dewis gweithio gyda rhywun sydd â rôl debyg ond nid yr un rôl yn union oherwydd mae ychydig bellter o waith eich gilydd yn dod â phersbectif ac amrywiaeth ehangach o faterion a chwestiynau.
Mae’n ymddangos ei fod yn gweithio orau yn y sesiynau lle rydym ychydig yn fwy llym ynghylch ‘hyfforddi’ ein gilydd – hynny yw, pan fydd y gwrandäwr yn gofyn cwestiynau treiddgar, heb darfu gormod. Mae’r rhain yn well na’r trafodaethau a gawn weithiau, sy’n crwydro braidd.
Beth am roi cynnig arni a rhoi gwybod i ni sut hwyl gewch chi?
Gweler hefyd y cymunedau ymarfer am gymorth misol rheolaidd.
Cynigir y syniadau isod fel awgrymiadau a gwahoddiadau. Cawsant eu datblygu a'u profi gan bobl oedd â diddordeb ledled Cymru. Rydym yn gobeithio y byddant yn eich helpu chi ac eraill i gymryd camau cynyddol gadarnhaol mewn ymateb i argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. Gellir defnyddio rhai ohonynt hefyd i wella cyfarfod ar unrhyw bwnc.
Mae ymarfer y bobl yn ffordd o annog a chydgysylltu camau gweithredu mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth.
Mae ymarfer y bobl yn ganolfan ar gyfer sefydliadau, grwpiau ac unigolion sydd wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd i rwydweithio, rhannu syniadau a chanolbwyntio ar y prif faterion a chamau positif ar y cyd.
Mae ymarfer y bobl yn lle i drafod a phenderfynu ar ein camau ein hunain, nid ar gyfer dweud wrth eraill yr hyn y dylent ac na ddylent ei wneud.
Mae ymarfer y bobl ynghylch camau sy'n newid ein dull o fyw, nid ynghylch gweithredu i godi ymwybyddiaeth, sef yr hyn y mae Gwrthryfel Difodiant ac eraill eisoes yn ei wneud.
Rydych angen grŵp bychan o bobl sydd wedi'u hysgogi a lle i gyfarfod. Dechreuwyd yma gyda pedwar o bobl. Roedd rhai ohonom yn cynnig lle cyhoeddus i gyfarfod (yn ein hachos ni, yr amgueddfa leol). Roedd rhai ohonom yn cynnig hwyluso a rhai ohonom yn cynnig helpu gyda chyfathrebu, gan wahodd eraill i ymuno. (Mae'n bosibl y bydd y rolau'n gorgyffwrdd!)
Yn gyntaf, cytunwyd sut yr oeddem am gydweithio/yr hyn yr oeddem am ei wneud. Yna dewiswyd rhai dyddiadau a gwahoddwid pobl i ymuno. Dewiswyd cyfarfod bob mis a dyma sut y cytunwyd i gydweithio:
Byddwn:
Cewch weld ein hegwyddorion yn y rhestr o bwyntiau bwled uchod. Gofynnwyd i bobl eraill sy'n sefydlu ymarferion tebyg (yn bennaf mewn safleoedd gwaith) a dywedwyd wrthym am yr egwyddorion sy'n bwysig iddynt hwy:
"Daeth y syniad o wrthryfel yr hinsawdd sy'n gofyn i unrhyw un sy'n cymryd rhan mewn unrhyw weithredu sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd i ddilyn rhai egwyddorion sylfaenol o fod yn ddi-drais, dangos empathi ac ati."
“Rydym yn hoff o'r syniad o gynnal cyfarfodydd mewn ffordd wahanol. Mae rhai pobl yn parhau i fod ynghlwm wrth y fformat o fwrdd safonol. Roedd egluro hyn o gymorth i rai pobl.”
“Mae aelodau ein grŵp wedi cytuno eu bod wedi penodi eu hunain - nid oes neb yn bresennol oherwydd eu swydd neu bod ganddynt bŵer hierarchaidd. Mae yn grŵp gwirfoddol.
Mae'r rhwydwaith hefyd yn hunan-awdurdodi. Nid ydym yn adrodd yn ôl i neb ond yn derbyn bod angen inni gysylltu â rhai strwythurau ffurfiol i helpu i drosglwyddo'r neges. Y syniad yw ein bod yn dewis pwy i siarad â hwy a phryd, neu yn holi cwestiynau i bobl."
"Bydd aelodau'r grŵp wedi cytuno i hyrwyddo’r rhwydwaith o fewn eu safleoedd gwaith eu hunain. Byddwn yn gwneud y pethau hynny y gallwn eu gwneud o fewn ein cylch gwaith ac yna cydweithio i herio / cefnogi newid o fewn y sefydliad ble y mae'r problemau y tu hwnt i'n rheolaeth.”
Rydym hefyd wedi cytuno i ddefnyddio'r grŵp i helpu i addysgu a datblygu ein gilydd. Y cais cyntaf oedd i'r tîm Ystadau sy'n rheoli lleihau carbon i gyflwyno trosolwg o bethau sydd eisoes yn digwydd. Mae nifer o'r syniadau cychwynnol a grëwyd gan y rhwydwaith eisoes yn cael eu gwneud neu wedi eu hastudio a'u gwrthod. Roedd pobl wedi synnu faint o waith a oedd eisoes yn mynd ymlaen heb sylw yn y sefydliad."
"Cyfreithlondeb: Mae rhai aelodau wedi nodi bod eu rheolwyr llinell am gael sicrwydd bod y gwaith yn gyfreithlon ac yn cyd-fynd â'u swyddi. O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol mae gan bawb gyfrifoldeb ynghylch newid hinsawdd. Mae nifer o sefydliadau yn defnyddio y syniad o 'gyfraniad corfforaethol' i alluogi pobl i gyfrannu eu sgiliau ehangach i nodau ar y cyd, naill ai ochr yn ochr neu yn hytrach nag amcanion eraill. Mae angen inni alluogi mwy o hyn."
Rydym yn datblygu ein harferion yn barhaus. Dyma rai o'r dulliau rydym wedi eu defnyddio hyd yma:
Daeth adroddiad Ewropeaidd diweddar i'r casgliad: 'Mae pobl yn dangos llai o ragfarnau wrth wneud penderfyniadau mewn iaith dramor, felly gallai hyrwyddo amrywiaeth ieithyddol yn y gweithle fod o fudd'. Mae'n bwysig inni bod ein grŵp yn agored ac yn gynhwysfawr felly rydym yn hwyluso ein sesiynau yn y Gymraeg a'r Saesneg ac yn annog pobl i ddefnyddio ieithoedd amrywiol yn yr ymarfer.
Bydd pwy bynnag sy'n arwain/hwyluso yn dweud ychydig eiriau yn y Gymraeg a naill ai byddant hwy neu hwylusydd arall yn ail-adrodd pob elfen yn Saesneg. Rydym yn annog pobl i ddefnyddio Cymraeg (neu ieithoedd eraill) a naill ai gyfieithu eu hunain neu ofyn i ffrind ddarparu cyfieithiad yn yr un ffordd.
I helpu inni sicrhau trafodaethau o safon uwch, rydym yn defnyddio arwyddion llaw wedi seilio ar gyfathrebu di-drais. Cewch ddarllen mwy yma: https://nonviolentcommunication.com/
Arwyddion llaw cyfathrebu di-drais - poster wedi'i wneud gartref
Mae gwaith ymchwil wedi dangos y gallai hyd yn oed yr oedi lleiaf helpu inni wneud penderfyniadau gwell. Dim ond rhyw 120 milieiliad y mae’n cymryd i'r ymennydd newid cyfeiriad ac anwybyddu ymyraethau i wneud penderfyniad mwy cywir.
Rydym yn defnyddio oedi a myfyrio (er enghraifft, sganio'r corff) i helpu i sicrhau cydbwysedd o fewn yr ymarfer.
Mae popeth yn dechrau wrth oedi.
Mae eistedd mewn cylch (o gadeiriau a soffas) yn dangos bod pawb yr un mor bwysig â'i gilydd. Mae hefyd yn caniatáu inni sicrhau bod pawb yn cael cyfle i siarad a chael eu clywed ac i wrando.
Mae cylch yn golygu bod pawb yn cael y cyfle i roi ymateb byr, naill ai drwy siarad yn eu tro yn y cylch neu drwy ganiatáu bob unigolyn gynnig ei ateb pan fydd yn barod. Mae cael syniadau pawb yn yr ystafell yn arwain at fwy o opsiynau, mwy o greadigrwydd a gwneud penderfyniadau gwell.
Gallai ffon siarad fod o gymorth os oes gennych gyfranogwyr hynod frwdfrydig. Gellir defnyddio unrhyw eitem yn y llaw fel 'ffon'. Unwaith y mae'n cael ei ddefnyddio, dim ond yr unigolyn sydd â'r ffon sy'n cael siarad. Bydd pawb arall yn gwrando tan i'r ffon gael ei throsglwyddo i'r unigolyn nesaf. Cymerwch amser i egluro diben y ffon yn ofalus. Wrth afael yn y ffon, mae'n iawn oedi ac mae angen cofio na chewch siarad yn rhy hir.
Mae cynhyrchu ar y cyd yn rhoi cyfle i bobl rannu pŵer a chyfrifoldeb, ac i gydweithio mewn perthynas gyfartal, ar y ddwy ochr, ac i ofalu am eraill. Mae cynhyrchu ar y cyd yn dechrau bob amser gydag asedau, pa adnoddau, sgiliau a doniau sydd gennym eisoes? Sut y gallwn ni helpu?
Dysgwch fwy gan Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru.
Mae tystiolaeth gynyddol sy’n dangos y gall bod ym myd natur wella ein dealltwriaeth, y ffordd rydym yn meddwl a'r ffordd rydym yn gwneud penderfyniadau, yn ogystal â gwneud cyfraniad sylweddol at ein hiechyd a llesiant cyffredinol.
Pan na allwn fynd allan gallwn ddod â'r 'tu allan' i mewn drwy dynnu lluniau. Gallwn hyd yn oed ddod â 'dyfodol' posib i'r ystafell drwy wneud llun ohono. Mae bod yn greadigol yn dda i'n syniadau, ein penderfyniadau a'n iechyd a'n llesiant ehangach.
Pan fydd gennym grŵp mawr (20 i 2000+) rydym yn defnyddio technoleg mannau agored i drefnu ein cyfarfod.
Gweithgorau
Rydym yn annog gweithgorau i lunio a pharhau eu gwaith gyda'i gilydd rhwng cyfarfodydd. Rydym yn cysylltu ac yn rhannu gydag eraill sydd â phwrpas tebyg.
Mae Gwasanaeth Newid Diwylliant Llywodraeth Cymru (a elwid gynt yn Rhaglen Newid Ymddygiad Cynaliadwy) yn cefnogi newid ymddygiad cadarnhaol ar draws Llywodraeth Cymru yn unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Rydyn ni'n darparu ystod o adnoddau ac offer, ynghyd â lle a chaniatâd i gydweithwyr fyfyrio ar sut i weithio'n wahanol er mwyn annog arloesedd, newid diwylliant a gwella'n barhaus yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Ar hyn o bryd, rydyn ni'n symud o drosiad sy'n seiliedig ar 'gwilt clytwaith' i drosiad sy'n seiliedig ar 'fyceliwm' neu 'ecosystem' ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae manteision y trosiad newydd hwn yn cynnwys:
Mae gan fyceliwm sawl rhan, gan gynnwys ensymau sy'n symud o le i le drwy'r myceliwm ac sy'n cael eu rhannu â'r pridd o'i amgylch. Mae'r ensymau hyn yn creu amddiffyniad i'r myceliwm ac yn helpu i ddarparu adnoddau, gwybodaeth, meddyginiaeth a maeth i'r ecosystem ehangach – coed, planhigion ac ati.
Rydyn ni'n eich gwahodd i sefydlu timau trawsbynciol bach o unigolion o fewn eich corff cyhoeddus neu sefydliad arall. Mae gennym ddiddordeb mewn siarad ag unrhyw un ledled Cymru sydd â diddordeb mewn dyfnhau eu dealltwriaeth a'u defnydd o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Efallai fod tîm o'r fath eisoes yn bodoli yn eich sefydliad neu efallai eich bod eisoes yn gweithredu fel rhan o'r myceliwm drwy rannu ac annog arferion da yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
A hoffech chi nodi neu greu tîm trawsbynciol bach a all gael ei gefnogi gan y prif weithredwr (neu gyfwerth), ac a fydd yn cefnogi gwaith yr aelod hwnnw o staff yn eich sefydliad?
Os felly, rydyn ni'n gofyn ichi sefydlu'r strwythur symlaf posibl ar gyfer rhyngweithio rheolaidd:
Rydyn ni'n argymell eich bod yn defnyddio'r dulliau diweddaraf sy'n seiliedig ar arferion gorau ar gyfer cynnal cyfarfodydd ond gallwch sefydlu eich strwythur a'ch prosesau eich hun mewn unrhyw ffordd sy'n addas i chi a'ch sefydliad.
Fe'ch cefnogir gan Wasanaeth Newid Diwylliant Llywodraeth Cymru drwy gyfarfodydd misol, a fydd yn rhoi gwybodaeth uniongyrchol am yr wyddoniaeth ddiweddaraf a chanllawiau syml ichi i gefnogi eich gweithgareddau.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwerthuso'r prosiect hwn, byddai gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed gennych chi.
Os oes unrhyw agwedd ar yr uchod yn swnio'n ddiddorol, waeth pa mor betrus ydych chi, anfonwch neges e-bost fer i Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru gan nodi'n gryno:
Dewiswch y gymdeithas, y grŵp, y tîm neu'r gymuned sy'n gweddu orau i'ch anghenion chi. Ddim yn gallu gweld yr hyn y mae ei angen arnoch chi? Ar ddiwrnod sy'n anghyfleus ichi? Cysylltwch â ni i weld beth arall sydd ar gael. I gael rhagor o fanylion neu i ymuno â chymuned benodol, anfonwch neges e-bost; Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru
A oes angen rhywle arnoch chi i feithrin eich sgiliau sylfaenol neu i edrych ar ôl eich hun yn well? Os felly, rhowch gynnig ar ymuno â sesiynau Lle i Anadlu, sy'n cael eu cynnal yn rheolaidd ac am ddim (bob dydd, wythnos neu fis) ar-lein. Fresh Air Fridays – Saib Anadlu
Dros Zoom, o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 8:30am
Rhwydwaith sy'n cael ei gynnull bob chwe mis gan Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol gyda diweddariadau e-bost rhwng aelodaul ad hoc.
Mae'r rhwydwaith hwn ar gyfer cynrychiolwyr sefydliadau sy'n cefnogi cyrff cyhoeddus neu fyrddau gwasanaethau cyhoeddus i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, hynny yw y rhai sy'n darparu hyfforddiant, adnoddau ac arbenigedd i gyrff cyhoeddus.
Ein nodau
Sut
I gael rhagor o fanylion, cysylltwch â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru: cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru
Mae CDCC+ yn rhwydwaith annibynnol a chynhwysol sy'n cynorthwyo cyrff cyhoeddus yng Nghymru i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r egwyddor datblygu cynaliadwy. Mae'r rhwydwaith yn cynnig lle dibynadwy, cyfeillgar a diogel i bobl leisio ac archwilio syniadau newydd sy'n gysylltiedig â datblygu cynaliadwy.
Mae'n cynnig rhaglen ddysgu a rhannu, gan gynnwys sesiynau Cyfnewid Gwybodaeth Cenedlaethau'r Dyfodol. Sefydlwyd CDCC+ fel rhwydwaith cadarn i gynghori ac i herio Llywodraeth Cymru, Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, a Cynnal Cymru, ac i gydweithio â'r sefydliadau hyn.
Hwylusir ymgysylltu drwy gyfarfodydd, gweithdai a seminarau wyneb yn wyneb ac ar-lein, gwefan bwrpasol, a sianel Teams. I gael rhagor o wybodaeth, ewch: www.sdccplus.org.uk
Mae'r gymuned hon ar gyfer ymarferwyr gwelliant parhaus sy'n gweithio ym maes gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Gallwch ymuno ag AWCIC drwy fynd i'r adran Rhwydweithiau ar wefan Academi Wales lle gallwch gael gafael ar wybodaeth am welliant parhaus, gan gynnwys offer, technegau a deunyddiau diweddar.
Rhaid ichi gael cyfrif Academi Wales a bod wedi mewngofnodi i'r cyfrif hwnnw i allu ymuno â'r rhwydwaith hwn. Dylech hefyd danysgrifio i'r bwletin wythnosol i gael diweddariadau rheolaidd. Rydyn ni’n:
A oes gennych chi ddiddordeb mewn archwilio beth sy'n atal ac yn galluogi tosturi i ffynnu? Mae hyfforddiant a chymorth am ddim ar y camau ymarferol sy'n ofynnol i ehangu'r defnydd o arferion tosturiol ar gael drwy Compassion Practices Collaborative.
Mae amseroedd amrywiol ar gael ar-lein a wyneb yn wyneb. Cofrestrwch i gael manylion drwy e-bost.
Un o'n cylchoedd mwyaf sefydlog – Biodiversity4Cymru oedd yr enw’n wreiddiol. Mae croeso i artistiaid, ecolegwyr, ymgyrchwyr a gweithredwyr polisi a phawb arall sydd â diddordeb yn y cysylltiadau rhwng creadigrwydd, bioamrywiaeth a sut y gall ein cysylltiadau â'r rhain greu newid mewn diwylliant.
Rydyn ni’n cwrdd bob mis ar MS Teams, rhwng 4pm a 5pm ar ddydd Mercher.
Egin gynghrair yw elfen graidd Cynghrair Seicoleg Hinsawdd Cymru. Rydyn ni’n rhannu dysgu â'n gilydd ac mae gennym aelodaeth sy'n gorgyffwrdd. Nid oes rhaid ichi fod yn aelod o'r naill i ymuno â'r llall.
Mae'r egin gynghrair yn rhwydwaith o unigolion sydd, mewn amrywiol ffyrdd, yn cefnogi pobl, sefydliadau a chymunedau drwy heriau emosiynol a seicolegol argyfyngau Brexit, Covid-19, ac argyfyngaucymdeithasol, economaidd, hinsawdd a bioamrywiaeth. Rydyn ni’n gymysgedd o seicolegwyr hyfforddedig, seicotherapyddion, cynghorwyr, hwyluswyr (y Gwaith sy'n Ailgysylltu, Caffis Marwolaeth, i enwi dim ond rhai), siaman dan hyfforddiant, dŵlas diwedd oes a phobl sy'n arddel ffydd.
Rydyn ni’n cyfarfod unwaith y mis dros Zoom i rannu cynnydd a dysgu, a datblygu syniadau a gwasanaethau newydd.
Grŵp sy'n cefnogi'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a pholisïau cydraddoldeb a chynhwysiant ehangach. Rydyn ni’n cwrdd i ddeall yn well sut y gallwn ddad-drefedigaethu asedau, ymddygiadau ac arferion gwaith Cymru. Mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn darparu cymorth, fel bod y rhai sy'n dymuno gwneud hynny yn gallu recordio a lanlwytho storïau i wefan Casgliad y Werin.
Gallwch gofrestru ar gyfer sesiynau misol naill ai rhwng 3pm a 4pm ar ddydd Iau neu rhwng 10am ac 11am ar ddydd Gwener, neu ddod i'r ddau os oes angen cymorth mwy rheolaidd arnoch. Gallwch ddod â chwestiynau i sesiynau penodol neu dim ond dod i wrando.
Gan adeiladu ar y gymuned ymarfer hynod lwyddiannus sydd eisoes yn cynorthwyo gweithredwyr allweddol sy'n gweithio ar heriau i ddatgarboneiddio cartrefi Cymru, rydyn ni’n ehangu ac yn dyfnhau ein harferion i ddysgu oddi wrth ein gilydd a gwneud pethau'n well. Mae gennym rwydwaith cynyddol o gymunedau ymarfer. Mae amrywiaeth o gyfleoedd, yn amrywio o ddod â phrif weithredwyr at ei gilydd, i weithio gyda chymunedau, i gydweithio mewn ardaloedd lleol a dysgu gan gymheiriaid a mwy. Mae hwyluswyr sy’n gymheiriaid yn cefnogi'r grwpiau i fwrw ati.
Mae rôl aelodau ac ymddiriedolwyr anweithredol y bwrdd yn hanfodol wrth gefnogi (neu danseilio) y ffordd y mae sefydliad yn cynnal ei hun, y diwylliant y mae'n ei greu ac i ba raddau y mae'n gwella llesiant yn ei ystyr ehangaf.
Mae gan bob aelod o'r bwrdd ei daith bersonol ei hun i ddeall yr hyn sy'n ofynnol ganddo.
Mae'r grŵp hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau archwilio sut y gallwn wneud i ddysgu gweithredol weithio ar gyfer llywodraethu.
Rydyn ni’n cefnogi gweithredwyr allweddol sy'n gweithio ar heriau i ddatgarboneiddio cartrefi Cymru i ddysgu oddi wrth ei gilydd a gwneud pethau'n well.
Mae gennym saith grŵp gwahanol a hwylusir sy'n cyfarfod yn rheolaidd, o ddinasyddion i brif weithredwyr i arbenigwyr technegol. Mae gennym hefyd gylch hwyluswyr ar gyfer y rhai sy'n cefnogi'r grwpiau hyn.
Mae llawer o gyrff cyhoeddus wedi manteisio ar y dull integredig o weithio o dan Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol i gyfuno gwahanol asesiadau effeithiau mewn un lle, naill ai ar bapur neu drwy grwpiau trafod. Mae'r grŵp hwn yn cyfarfod i rannu a dysgu mwy am sut y gallwn wella asesiadau effaith. Rydyn ni’n archwilio;
Fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth, fe wnaethom gynhyrchu canllawiau ar gyfer creu ymarfer y bobl, er mwyn helpu i gynyddu gweithredu ymarferol yn lleol.
Mae amrywiaeth o grwpiau tebyg yn weithredol yng Nghymru, gan gynnwys Cynghorau Cymuned, Trefi Trawsnewid, Caffis Trwsio, cadernid Bwyd Lleol, Ynni Adnewyddadwy Cymunedol, Cyfranddaliadau Trafnidiaeth, Llyfrgell Pethau ac eraill.
Mae'r grŵp hwn ar gyfer unrhyw un sy'n dod â grŵp lleol o bobl ynghyd i hwyluso ymatebion ymarferol lleol i heriau hinsawdd ac ecolegol. Nid oes agenda i’r cyfarfodydd ac maent yn rhai myfyriol. Gallwch hyd yn oed ddweud dim byd a dim ond sylwi ar sut rydych chi'n teimlo. Mae'n gyfle da i rannu a dysgu gan eraill a sylweddoli nad ydych chi ar eich pen eich hun.
Rydyn ni’n cyfarfod bob mis dros Zoom, rhwng 4pm a 5pm ar ddydd Mercher.
Rhyfelwyr / Shambhala
Rydyn ni’n bobl sy'n awyddus i weithio'n wahanol i fod yn fwy cydnaws â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Rydyn ni am ymateb i'r heriau cymhleth sy'n ein hwynebu nid yn unig fel sector cyhoeddus ond fel cymdeithas. Mae croeso i bawb!
Mae cysyniad y grŵp yn seiliedig ar broffwydoliaeth Rhyfelwyr Shambhala.
Mae rhai aelodau o'r grŵp yn cwrdd dros Zoom, rhwng 12pm ac 1pm ar ddydd Gwener olaf y mis, tra mae aelodau eraill yn cwrdd dros MS Teams, rhwng 3pm a 4pm ar ddydd Mercher cyntaf y mis.
© Hawlfraint y Goron 2024: Ac eithrio'r eitemau a nodir yn y testun, gellir ail-ddefnyddio'r deunydd hwn yn rhydd o dan Drwydded Llywodraeth Agored 3.0. Gweler y manylion ar:http://www.nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3/. Er mwyn rhoi adborth neu ymholiadau, cysylltwch â: Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru
Am adborth neu ymholiadau, anfonwch neges e-bost: Dyfodol.Cynaliadwy@llyw.cymru.
Mae'r canllaw hwn wedi 'i gynllunio drwry fewnbwn hael gan y canlynol.
Compassion Practices Collective.
Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch | Bangor University ac Ymwybyddiaeth Ofalgar Cymru
Y Presencing Institute ac u-Lab
Pob prifysgol yng Nghymru.
Timau Arferion y Bobl a chylchoedd cymdeithas sifil eraill ledled Gymru
Cannoedd o weision sifil Llywodraeth Cymru a'u rhanddeiliaid.
Rydym am ddiolch i bawb am eu holl syniadau, gwaith caled, mewnwelediadau ac awgrymiadau.
[a]Add link to FGCO website if uploaded in time?